Mae merch sy’n derbyn gofal dwys yn yr ysbyty am salwch Covid-19 yn galw ar bobol ifanc i gael eu brechu.

Mae Maisy Evans, 17 o Gasnewydd, yn dal i dderbyn gofal yn Ysbyty’r Faenor yng Nghwmbrân ar ôl cael triniaeth am dolchen gwaed yn ei hysgyfaint.

Dywedodd nad yw’r feirws yn “jôc” i bobol ifanc, ac nad ydi hi’n gallu rheoleiddio lefelau ocsigen ar ei phen ei hun ar hyn o bryd.

Dechreuodd Maisy Evans deimlo’n sâl ar 13 Awst, ddeuddydd ar ôl cael dos cyntaf o’r brechlyn.

Gwaethygodd ei chyflwr yn raddol, ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty ar 25 Awst, gyda meddygon yn amau mai sepsis neu meningitis oedd y rheswm am ei salwch.

Ond bellach, wedi sawl prawf a sgan, mae meddygon yn hyderus mai Covid-19 achosodd y dolchen yn ei hysgyfaint.

Wrth annog eraill i barhau i gymryd y feirws “o ddifrif”, dywedodd Maisy Evans ei bod hi’n iach ar y cyfan.

“Ddim yn jôc”

Erbyn hyn, mae hi ar gyfuniad o gyffuriau gwrthfiotig, steroidau, morffin a chyffur teneuo gwaed, ac yn disgwyl aros yn yr ysbyty am ychydig o nosweithiau eto.

“Nid yw’r feirws hwn yn jôc i bobl ifanc a dylai pawb sy’n gymwys gael eu brechu,” meddai Maisy Evans mewn trydariad wrth rannu ei phrofiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y cyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: “Yn araf, rydw i ar y ffordd hir i wella!”

“Hoffwn gymryd eiliad i ddiolch i’r staff gwych yn Ysbyty Athrofaol y Faenor am fy nhrin mor dda!

“Mae’n bilsen bron mor anodd ei llyncu â’r amoxicillin enfawr, ond dwi ddim yn meddwl y byddwn i yma heb y staff ar y ward hon felly diolch yn fawr.”