Bydd mudiad ‘Hawl i Fyw Adra’ yn cynnal ail orymdaith o Lŷn i Gaernarfon i alw am weithredu ar ail gartrefi.
Ychydig iawn sydd wedi’i gyflawni yn y cyfamser, meddai’r mudiad, ac felly bydden nhw’n cerdded o faes parcio’r ganolfan iaith yn Nant Gwrtheyrn i Gaernarfon ar 25 Medi.
Dros y penwythnos, mae’r grŵp wedi bod yn gosod arwyddion ym mhentrefi Llŷn a Dwyfor, a’r bwriad yw cael arwyddion ymhob pentref.
Maen nhw’n galw ar Gabinet y Cyngor Sir a Phwyllgor ar y Cyd Gwynedd a Môn i sicrhau adolygiad ar frys i’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn atgyfnerthu a gwarchod pobol leol a’u cymunedau.
Unfrydol
Fis Mehefin fe bleidleisiodd Cynghorwyr Gwynedd yn unfrydol o blaid ei adolygu, ac er i 47 o gynghorwyr sir yrru at y Cabinet i’w hannog i wneud newidiadau penodol o’r Cynllun Datblygu Lleol ddechrau Awst, dydyn nhw heb dderbyn ymateb cadarnhaol i’r cynigion hyd yn hyn.
Mae’r ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno brêc ar bryniannau ail dai drwy greu dosbarth defnydd penodol ar ail dai a chodi treth tir sylweddol uwch arnyn nhw, gan wneud y lefel isaf o’r dreth yn 12% yn hytrach na 4%.
Yn ogystal, maen nhw’n galw ar y llywodraeth i ddarparu rheoliadau sy’n atal pobol nad ydyn nhw’n lleol rhag prynu ail dai mewn cymunedau, a sicrhau defnydd eang o Gynllun Prynu Cartref-Cymru.
Mae’r cynllun yn rhoi ecwiti di-log i bobol leol allu cystadlu â’r farchnad a phrynu tai yn lleol.
“Diamddiffyn”
Er mwyn galw am hynny, mae croeso i unrhyw un ymuno â’r orymdaith yn Nant Gwrtheyrn ddiwedd Medi, neu ymuno â’r daith yn Nhrefor, Clynnog, Pontllyfni, Glynllifon neu Lanwnda.
Bydden nhw’n anelu at gyrraedd Caernarfon am 3 y prynhawn, gan orffen y daith tu allan i Bencadlys Cyngor Gwynedd.
“Mi fydd hi bron yn flwyddyn ers i drigolion o Ben Llŷn ag aelodau o Gyngor Tref Nefyn gerdded i Gaernarfon i godi ymwybyddiaeth o’r diffyg rheoliadau sydd ar ail gartrefi a’r diffyg gwarchodaeth o’n cymunedau a’n hiaith,” meddai’r grŵp Hawl i Fyw Adra.
“Ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni yn wleidyddol.
“Mae’n cymunedau yn parhau i fod yn ddiamddiffyn ac mae peryg i’r Gymraeg ddiflannu fel iaith fyw o’n cymunedau.”