Mae son bod bod byddin y Deyrnas Unedig yn paratoi ymgyrch awyr yn erbyn y grŵp terfysgol Islamic State yn Affganistan.

Daw’r awgrym gan bennaeth yr Awyrlu wedi i fyddin yr Unol Daleithiau adael y wlad ddoe (30 Awst), ddiwrnod cyn bod rhaid iddyn nhw adael.

Gyda milwyr y Gorllewin yn gadael Affganistan, mae’n golygu bod yr ymdrechion i helpu pobol i ffoi o Kabul wedi dod i ben hefyd.

Tra ei bod hi’n ymddangos bod y gymuned ryngwladol wedi derbyn y realiti mai’r Taliban sydd mewn grym, mae’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau’n barod i frwydro Islamic State, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Daesh.

Cangen o’r grŵp yn Affganistan, Isis-K, oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau terfysgol ym maes awyr Kabul yr wythnos ddiwethaf.

“Chwarae rhan”

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, Dominic Raab, fod y glymblaid fyd-eang yn erbyn grwpiau terfysgol yn barod i “wrthsefyll rhwydweithiau Daesh ymhob ffordd posib, pryd bynnag maen nhw’n gweithredu”.

Fe wnaeth pennaeth yr Awyrlu Brenhinol, Syr Mike Wigston, awgrymu y gallen nhw lansio ymosodiad awyr yn erbyn targedau Isis-K.

“Yn y pendraw, mae’n rhaid i ni allu chwarae rhan fyd-eang yn y glymblaid fyd-eang i drechu Daesh, boed drwy ymosod, neu symud milwyr neu offer i wlad benodol, ar raddfa fawr ac ar frys,” meddai Syr Mike Wigston wrth y Daily Telegraph.

“Os oes yna gyfle i ni gyfrannu, does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n barod – a hynny yn unrhyw le mae eithafiaeth dreisgar yn dod i’r golwg, ac yn fygythiad uniongyrchol neu anuniongyrchol i’r Deyrnas Unedig ac ein cynghreiriaid.

“Affganistan yw un o’r llefydd anoddaf i fynd iddyn nhw yn y byd, mae’n debyg, ac rydyn ni’n gallu gweithredu yno.”

Mae’r ymosodiad ar faes awyr Kabul wedi arwain at yr Unol Daleithiau’n awgrymu fod y gât lle digwyddodd yr ymosodiad wedi’i chadw ar agor i ganiatáu i raglen wacau Prydain fynd yn ei blaen.

Yn ôl nodiadau o’r Pentagon sydd wedi’i gweld gan Politico, roedd pennaeth lluoedd yr Unol Daleithiau yn Affganistan eisiau cau Abbey Gate ond cafodd ei gadael ar agor i ganiatáu mynediad i faciwîs Prydeinig i’r maes awyr.

Yn ôl Gweinyddiaeth Dramor y Deyrnas Unedig, fe wnaethon nhw gydweithio’n agos gyda’r Unol Daleithiau er mwyn sicrhau bod miloedd o bobol yn gallu ffoi o’r wlad.

Ymateb ar y cyd

Gadawodd milwyr olaf yr Unol Daleithiau o faes awyr Kabul yn fuan cyn hanner nos yno ddydd Llun (30 Awst), ac fe wnaeth y Taliban ddatgan “annibyniaeth lawn” wedyn.

Mae’r Taliban dan bwysau rhyngwladol i barchu hawliau dynol a sicrhau bod pobol yn gallu gadael y wlad wedi i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig basio cynnig.

Fe wnaeth y cyngor basio’r cynnig yn Efrog Newydd, gyda’r Deyrnas Unedig yn gobeithio y bydd yn gam tuag at ymateb rhyngwladol ar y cyd.

Er hynny, mae’r cynnig yn cydnabod mai penderfyniad y Taliban yw dewis a gaiff pobol adael Affganistan.

Penderfynodd Rwsia a Tsieina ymatal eu pleidlais, ond mae’r Deyrnas Unedig yn gobeithio y gall y ddwy wlad ddylanwadau ar lywodraeth newydd Affganistan ar faterion fel gwrthsefyll terfysgaeth a masnachu cyffuriau, gan atal argyfwng ffoaduriaid a difrod pellach i’r economi.

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Dramor, James Cleverly, ei bod hi’n amhosib amcangyfrif faint o bobol sy’n gymwys i ddod i’r Deyrnas Unedig sydd dal yn Affganistan.

Cafodd tua 15,000 o bobol eu cludo yma, meddai, ond dywedodd fod miloedd o bobol sydd dal yno wedi cysylltu.

Fe wnaeth e gyfaddef na chafodd rhai o’r e-byst gan Affganiaid eu darllen gan y Swyddfa Dramor gan eu bod nhw’n blaenoriaethu’r bobol oedd yn gallu cael eu prosesu a chyrraedd maes awyr Kabul.

Y milwyr olaf o wledydd Prydain wedi gadael Affganistan

Operation Pitting wedi dod i ben ar ôl dau ddegawd

Dau ffrwydrad ger maes awyr Kabul

Digwyddodd y ffrwydradau y tu allan i’r maes awyr, lle mae miloedd o Affganiaid wedi ymgynnull yn y gobaith o adael y wlad