Gall chwarae rygbi proffesiynol am un tymor yn unig effeithio ar ymennydd chwaraewr, yn ôl astudiaeth newydd

Fe wnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru ddilyn tîm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig am flwyddyn gan brofi chwaraewyr cyn, yn ystod, ac ar ddiwedd y tymor.

Dangosodd y profion bod llif gwaed i’r ymennydd a gweithgaredd wybyddol (cognitive function) wedi dirywio yn ystod y cyfnod hwnnw, a hynny o ganlyniad i gyfergydion yn ogystal ag ergydion llai, cyson.

Daw’r sylw ar effaith corfforol rygbi wrth i 200 o gyn-chwaraewyr proffesiynol ac amatur gwrywaidd a benywaidd o Gymru a Lloegr gymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau’r gamp am fethu â’u gwarchod o risg cyfergydion ac anafiadau i’r pen.

Mae corff rheoli World Rugby wedi croesawu’r ymchwil newydd gan ddweud eu bod wedi ymroi i “ddwblu ein buddsoddiad mewn lles chwaraewyr, a chamau ac ymchwil newydd i gyfergydion”.

Dirywiad

Mae astudiaethau wedi awgrymu bod chwaraewyr rygbi proffesiynol yn profi hyd at 11,000 o ergydion gwahanol bob tymor, ac felly nad cyfergydion amlwg yw’r unig fygythiad i’w hiechyd yn y tymor hir.

Yn yr ymchwil gan Brifysgol De Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Journal of Experimental Physiology, dim ond chwech cyfergyd gafodd eu cofnodi yn ystod y tymor cyfan ymhlith holl chwaraewyr y clwb gafodd eu dilyn.

Ond, rhwng dechrau a diwedd y tymor, fe welwyd dirywiad yn llif y gwaed i’r ymennydd a gweithgaredd wybyddol ym mhob un o’r chwaraewyr.

Does dim rheswm i feddwl pam na fyddai’r effaith yn debyg ar chwaraewyr amatur, meddai’r Athro Damian Bailey

Dywedodd fod dilyn y chwaraewyr “hyd yn oed dros gyfnod byr” wedi dangos “cyfradd uwch o ddirywiad yng ngweithgarwch yr ymennydd”.

“Mae nifer o’r chwaraewyr yma wedi bod yn chwarae ers blynyddoedd hefyd, felly mae’n debygol fod y lefel cychwynnol eisoes wedi’i effeithio’n barod,” meddai.

Cyffyrddiadau

Ychwanegodd ei bod hi’n bryd “symud i ffwrdd o gyfergydion fel petai, a chanolbwyntio mwy ar gyffyrddiadau”.

Dywedodd yr Athro Bailey fod yr ymchwil wedi dangos gwahaniaethau yn y canlyniadau rhwng gwahanol aelodau o’r garfan hefyd, gyda blaenwyr yn dangos mwy o ddirywiad nag olwyr oherwydd nifer yr ergydion cyson.

Ond doedd dim modd bod yn siŵr eto, meddai, a yw chwaraewyr amatur yn debygol o ddioddef yr un effeithiau.

“Yn y gêm broffesiynol does dim llawer o amser i adfer a gwella, mae’r chwaraewyr yn fwy ac felly mae ergydion yn debygol o gael mwy o effaith,” meddai.

“Ond gydag amaturiaid mae’n bosib nad yw eu techneg nhw cystal ac felly maen nhw mewn perygl o gael ergydion i’r pen a chyfergydion.”

Mae cynghrair bêl-droed Americanaidd yr NFL eisoes wedi cyflwyno cyfyngiad ar nifer y cysylltiadau sy’n cael eu caniatáu wrth ymarfer, rhywbeth mae rhai o fewn y byd rygbi hefyd eisiau efelychu.

Blaengar

Mae eraill wedi galw ar ganiatáu i eilyddion ddod i’r cae dim ond os ydy chwaraewr wedi brifo, yn hytrach na fel pâr ffres o goesau allai anafu gwrthwynebydd blinedig.

Dywedodd World Rugby eu bod yn croesawu ymchwil Prifysgol De Cymru, a’u bod wrthi hefyd yn cynnal eu hymchwiliadau eu hunain ar effaith ergydion wrth ymarfer.

“Rydym yn croesawu pob ymchwil all helpu a chefnogi ein strategaeth ddiweddar i sicrhau mai rygbi yw’r gamp fwyaf blaengar ar les chwaraewyr,” meddai’r corff.

“Mae hynny wrth galon popeth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud.”