Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, wedi cyhoeddi ei bwriad i benodi cyd-arweinwyr Plaid Werdd yr Alban i’w chabinet.

Daw hyn yn sgil y fargen rhwng yr SNP a Phlaid Werdd yr Alban.

Pe bai swyddi i Patrick Harvie a Lorna Slater, dyma fyddai’r tro cyntaf i aelodau’r Blaid Werdd gael eu penodi i unrhyw lywodraeth yng ngwledydd Prydain.

Cafodd manylion y fargen rhwng y ddwy blaid eu cyhoeddi fis diwethaf.

Mae disgwyl i Patrick Harvie gymryd cyfrifoldeb am adeiladau carbon sero, teithio a hawliau tenantiaid, tra bod disgwyl i Lorna Slater dderbyn swydd ym maes sgiliau gwyrdd, economi gylchol a bioamrywiaeth.

‘Cydweithio’

Yn ôl Nicola Sturgeon, bydd y fargen rhwng y ddwy blaid yn helpu i “adeiladu Alban annibynnol wyrddach, decach”.

Mae hi’n dweud bod yr Alban yn wynebu “heriau enfawr i’w goresgyn”, gan gynnwys y pandemig Covid-19, yr argyfwng hinsawdd ac ymosodiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar bwerau sydd wedi’u datganoli.

Dywed mai cyfrifoldeb y ddau aelod newydd o’r cabinet fydd “wynebu” yr heriau hynny.

Bydd penodiadau’r ddau yn ddibynnol ar sêl bendith Senedd yr Alban a Brenhines Loegr, ond mae Ceidwadwyr yr Alban yn bwriadu gwrthwynebu’r penodiadau.

Serch hynny, fe ddylen nhw gael digon o gefnogaeth o fewn yr SNP a’r Blaid Werdd, er bod yr SNP un sedd yn brin o fwyafrif yn Senedd yr Alban.

Fel rhan o’r fargen, mae disgwyl i’r Alban geisio annibyniaeth eto cyn 2023 a chyflwyno cyfres o bolisïau amgylcheddol.