Mae adroddiadau y gallai Boris Johnson orfod symud Trident i Gymru pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.

Daw’r honiadau mewn erthygl yn y Daily Express, sy’n cyfeirio at adroddiad arall yn y Sunday Times yn crybwyll Aberdaugleddau fel lleoliad posib ar gyfer arfau niwclear Prydain yn y tair blynedd nesaf.

Mae taflegrau Prydain yn Faslane ger Glasgow ac yn Argyll ar hyn o bryd, ond mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn mynnu nad yw hi am i’r taflegrau aros mewn Alban annibynnol yn y dyfodol.

Mae disgwyl trafodaeth ar y mater pan fydd yr SNP yn cynnal eu cynhadledd yn fuan.

Mae GB News hefyd wedi bod yn canu clodydd Cymru fel lleoliad posib, meddai’r Daily Express, ond mae lle i gredu bod Plymouth dan ystyriaeth hefyd fel lleoliad mwya’r llynges yng ngwledydd Prydain.

Yn 2014, adeg refferendwm cynta’r Alban, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban wfftio’r posibilrwydd o gael gwared ar arfau niwclear Prydain o’r Alban o ganlyniad i’r gost, ac mae lle i gredu nad yw eu barn wedi newid erbyn hyn.

Ond mae’r SNP yn dal i fynnu na fyddai arfau niwclear yn cael aros pe bai’r wlad yn annibynnol, ac mae Llafur yr Alban wedi beirniadu eu safbwynt.