Fe fu’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys ddirwyn rêf anghyfreithlon i ben ger Crughywel dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Cafodd yr heddlu eu galw yn sgil pryderon trigolion lleol wrth i’r traffig yn yr ardal gynyddu’n gyflym ar lonydd cul.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd nifer fawr o bobol yn ceisio cyrraedd coedwig ac fe wnaeth yr heddlu gyhoeddi gorchymyn yn unol ag Adran 63 Deddf y Drefn Gyhoeddus 1994.
Roedd hyn yn galluogi’r heddlu i ymsefydlu o fewn pum milltir i safle’r rêf er mwyn cadw trefn ar y sefyllfa.
Cafodd pawb oedd ar y safle orchymyn i adael y bore canlynol, ac fe wynebodd yr heddlu ymateb chwyrn, gan gynnwys bygythiadau.
Mae lle i gredu bod oddeutu 500 o bobol ar y safle wrth i’r rêf gyrraedd ei hanterth, a bod hyd at 300 yn dal yno y bore wedyn, gydag o leiaf 100 o gerbydau hefyd.
Fe wnaeth pawb adael y safle yn fuan wedyn ar ôl cael gwybod eu bod nhw’n wynebu hyd at dri mis o garchar neu ddirwy o £2,500 ac mae gan yr heddlu yr hawl i fynd â cherbydau ac offer sain.
Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod difrod i’r safle a chaeau cyfagos, a chafodd tri o bobol eu cosbi am adael eu cerbydau ar ymyl y ffordd gan achosi rhwystr, ac roedd gan sawl person gyffuriau yn eu cerbydau.
Yn ôl yr heddlu, roedd rhai wedi teithio cryn bellter, gan gynnwys Essex a Llundain.