Mae dyn 29 oed wedi’i gadw yn y ddalfa wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 27 oed yn Shotton yn Sir y Fflint.

Aeth Russell Marsh gerbron ynadon yn yr Wyddgrug heddiw (dydd Llun, Awst 30).

Mae e wedi’i gyhuddo o lofruddio Jade Ward, oedd hefyd yn defnyddio’r enw Marsh, yn ei chartref yr wythnos ddiwethaf.

Fe gadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni yn ystod y gwrandawiad.

Bydd yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher (Medi 1).

Logo'r heddlu yn erbyn cefndir du

Cyhuddo dyn, 29, o lofruddio Jade Ward, 27, yn Shotton

Russell Norman James Marsh wedi’i gadw yn y ddalfa cyn mynd gerbron ynadon yfory (dydd Llun, Awst 30)