Mae llywodraeth datganoledig y Deyrnas Unedig wedi anfon llythyr at Lywodraeth Prydain yn eu hannog i wyrdroi’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd wythnosol o £20 mewn Credyd Cynhwysol.
Maen nhw wedi mynegi “pryderon dybryd” yn eu llythyr at Therese Coffey, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.
Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi llofnodi’r llythyr ar ran Llywodraeth Cymru, ynghyd â Shona Robinson, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol yr Alban, a Deidre Hargey, Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon.
Mae’r llythyr yn nodi’r “gostyngiad dros nos mwyaf yng nghyfradd sylfaenol sicrwydd cymdeithasol ers i’r wladwriaeth les gyfoes ddechrau”.
Maen nhw’n rhybuddio y bydd yn “cynyddu caledi a thlodi i bobol sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd”.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio am dlodi plant, lefelau tlodi yn gyffredinol a iechyd a lles ariannol pobol o ganlyniad i’r penderfyniad.
Yn ogystal, maen nhw’n cwestiynu’r rhesymeg mai annog pobol i fentro i fyd gwaith sydd yn bennaf gyfrifol am y penderfyniad, gydag ystadegau Llywodraeth Prydain yn dangos bod 2.2m o’r bobol sy’n derbyn Credyd Cynhwysol eisoes yn gweithio ac na all 1.6m yn rhagor weithio o ganlyniad i salwch a chyfrifoldebau gofalu.