Mae roced oedd wedi cael ei anelu at faes awyr Kabul wedi taro cymdogaeth gyfagos, wrth i amser ddechrau rhedeg allan i’r Unol Daleithiau symud pobol allan o Affganistan.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un ei anafu.

Mae awyrennau Americanaidd yn dal i adael y wlad.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad diweddaraf, ond fe wnaeth Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ hawlio cyfrifoldeb yr wythnos ddiwethaf am ffrwydradau yn y maes awyr oedd wedi lladd o leiaf 169 o Affganiaid ac 13 o filwyr Americanaidd.

Fe fu’r maes awyr dan ei sang ers pythefnos ar ôl i’r Taliban ddod i rym, bron i ugain mlynedd ers i’r Unol Daleithiau ddechrau eu cyrch yno yn dilyn ymosodiadau brawychol 9/11.

Mae lle i gredu mai bom car oedd wedi cael ei ddefnyddio yn y ffrwydrad diweddaraf yn Chahr-e-Shaheed, ac mae’n hysbys fod hwn yn un o ddulliau Daesh.

Glaniodd rocedi yng nghymdogaeth Salim Karwan ger Kabul, gan daro fflatiau ddwy filltir i ffwrdd o’r maes awyr.