Mae corwynt Ida wedi bod yn achosi trafferthion mawr wrth i drigolion New Orleans golli eu cyflenwad trydan, gyda’r corwynt yn taro arfordir Louisiana cyn mynd am Mississippi.

Mae arbenigwyr wedi bod yn rhybuddio am wyntoedd cryfion, glaw trwm a allai arwain at lifogydd a stormydd sy’n peryglu bywydau pobol.

Mae’r corwynt wedi bod yn lledu trwy Louisiana a Mississippi, ac fe laniodd ar yr arfordir union 16 o flynyddoedd ar ôl Corwynt Katrina.

Gyda gwyntoedd o hyd at 150m.y.a., dyma’r pumed corwynt cryfaf erioed ar dir yr Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu bod y corwynt eisoes yn gyfrifol am o leiaf un farwolaeth yn Louisiana, a hynny ar ôl i goeden gwympo, ac mae ysbytai yn rhybuddio y gallen nhw gael eu gorlethu gan anafiadau a chyfraddau uwch o Covid-19 wrth i bobol ddod ynghyd mewn sawl lloches ar ôl cael eu symud o’u cartrefi.

Yn New Orleans, mae colli cyflenwadau trydan yn golygu bod miloedd o bobol heb systemau cyflyru’r aer ac oergelloedd mewn gwres llethol, ac mae problemau wedi’u hachosi i linellau ffôn 911 y gwasanaethau brys.

Er gwaetha’r sefyllfa yno, mae disgwyl i’r gwyntoedd ostegu cryn dipyn ac mae’r corwynt wedi’i is-raddio i Gategori 1 ar y cyfan.

Corwynt Katrina

Mae pobol eisoes yn cymharu corwyntoedd Ida a Katrina, y corwynt dinistriol a darodd yr Unol Daleithiau yn 2005.

Cafodd Katrina y bai am 1,800 o farwolaethau wrth i goed gwympo a llifogydd dinistriol daro New Orleans.

Mae’r Arlywydd Joe Biden eisoes wedi cymeradwyo statws argyfwng Louisiana.