Mae Nicola Sturgeon wedi bod yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Dywed prif weinidog yr Alban ei bod hi wedi cael prawf PCR negyddol, sy’n golygu nad oes rhaid iddi hunanynysu bellach.
Yn unol â rheolau Covid-19, does dim rhaid i bobol sydd wedi cael dau frechlyn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi’i heintio os nad oes ganddyn nhw eu hunain symptomau’r feirws ac yn cael prawf PCR negyddol.
Mae Nicola Sturgeon wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19.
Yn ôl ffigurau swyddogol yr Alban ddoe (dydd Sul, Awst 29), roedd 7,113 o brofion positif yn yr Alban yn ystod y 24 awr blaenorol, sy’n record dyddiol newydd yn y wlad.
Roedd 507 o bobol yn yr ysbyty â Covid-19 a 52 ohonyn nhw mewn unedau gofal dwys.
Mae Nicola Sturgeon wedi bod yn atgoffa pobol i gadw at y rheolau er mwyn cadw pawb yn ddiogel.