Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a gweithdai wrth i ddisylion a myfyrwyr baratoi i ddychwelyd ar gyfer y tymor academaidd newydd.

Bydd cyllid ar gael ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.

Peiriannau Diheintio Oson

Mae £3.31m yn cael ei neilltuo ar gyfer peiriannau diheintio oson newydd, i leihau amseroedd glanhau, gwella’r broses ddiheintio a lleihau costau.

Mae disgwyl i’r cyllid gyflenwi mwy na 1,800 o beiriannau, o leiaf un ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru, gydag amser a chost glanhau ystafelloedd yn broblem i ysgolion a cholegau yn gynnar yn y pandemig.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Brifysgol Abertawe sefydlu Prosiect Diheintio Ystafelloedd Dosbarth, gyda chymorth cyllid.

Mae gwyddonwyr yn y brifysgol wedi datblygu peiriant diheintio Oson sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer y dasg hon, ac sydd bellach yn cael ei gynhyrchu,

Mae modd defnyddio’r peiriannau i ddiheintio ystafelloedd dosbarth yn gyflym pan ddaw clystyrau o Covid-19 neu feirysau trosglwyddadwy eraill megis norofeirws i’r amlwg.

Peiriannau monitro ‘goleuadau traffig’ carbon deuocsid

Bydd £2.58m yn cael ei neilltuo ar gyfer dros 30,000 o beiriannau monitro ‘goleuadau traffig’ carbon deuocsid, ar gyfer mannau addysgu a dysgu fel ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar neu ddarlithfeydd.

Mae peiriannau monitro carbon deuocsid yn cynnwys synwyryddion sy’n rhoi arwydd gweledol pan fo ansawdd aer mewnol yn dirywio.

Bydd y peiriannau’n rhybuddio athrawon a darlithwyr pan fydd lefelau carbon deuocsid yn codi, gan roi gwybod iddyn nhw fod angen gwella ansawdd yr aer, a bydd hynny’n helpu i reoli awyru yn ystod y gaeaf.

Bydd hyn yn helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i ddysgwyr a staff yn ystod cyfnodau oerach, gyda llai o wres yn cael ei golli, ac yn arbed costau ynni.

‘Helpu i wella ansawdd aer

“Rwy’n falch y gall dysgwyr ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd yr hydref hwn gyda llai o gyfyngiadau nag a fu ers misoedd lawer,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Bydd y buddsoddiad hwn mewn peiriannau monitro carbon deuocsid yn helpu i wella ansawdd aer, a bydd y peiriannau diheintio yn caniatáu i’r ystafelloedd dosbarth gael eu defnyddio i addysgu yn y ffordd arferol eto yn gyflymach.

“Mae hyn yn cefnogi ein nod cyffredinol o sicrhau y gall dysgwyr barhau i ddysgu gyda’u hathrawon a’u ffrindiau.

“Ond mae’n rhaid i ni barhau i fod ar ein gwyliadwriaeth oherwydd Covid-19.

“Bydd y mesurau hyn yn cyd-fynd â’r cyngor cyfredol yn hytrach na’i ddisodli, sy’n cynnwys cynnal hylendid, a golchi dwylo’n drylwyr ac yn amlach nac arfer.”

Mae Dr Chedly Tizaoui o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r tîm a ddyluniodd y peiriant diheintio oson.

“Rwy’n hynod falch bod y dechnoleg oson a ddatblygwyd gennym yma ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd i helpu’r ymdrech i gael gwared ar Covid-19 yng Nghymru,” meddai.

“Mae lleihau lledaeniad y coronafeirws yn ein sefydliadau addysg yn hynod bwysig, fel bod modd i’n plant a’n myfyrwyr ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.

“Mae oson yn effeithiol iawn yn erbyn feirws Covid-19 ac, oherwydd ei natur nwyol, mae’n lladd y feirws boed hwnnw yn yr aer neu ar arwynebedd.

“Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a’r Adeiladau Gweithredol y mae SPECIFIC yn arloesi ynddynt, dengys ein hymchwil y gall adeiladau fod yn weithredol y tu mewn a bod modd ymgorffori’r driniaeth Oson sy’n cael ei datblygu yma i gefnogi glanhau a diheintio adeiladau eraill.”

Mae Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi croesawu’r datblygiad.

“Drwy fuddsoddi mewn technoleg newydd fel peiriannau diheintio oson, rydym yn sicrhau y gall dysgwyr aros yn yr ysgol a’r coleg wrth i Gymru symud ymlaen o’r pandemig,” meddai.

Ymateb Plaid Cymru

“Mae cyngor gwyddonol wedi tynnu sylw ers tro at bwysigrwydd ansawdd aer wrth gyfyngu ar drosglwyddo coronafeirws – rydym wedi bod yn galw am fwy o arweiniad ac adnoddau i golegau ysgolion a phrifysgolion ar bwnc awyru ers y llynedd,” meddai Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru.

“Mae’r ddarpariaeth o declynnau monitro CO2 i sefydliadau addysgol, tra’n hwyr, i’w groesawu, ac mae’n cyd-fynd â gwledydd eraill.

“Mae’n bwysig bod y mesurau a ddefnyddiwn yn cyd-fynd â’r canllawiau gwyddonol diweddaraf ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i sefydliadau addysgol ar ddefnyddio teclynnau fel systemau diheintyddion osôn.

“Mae cyflwyno peiriannau diheintio oson yn fwy dadleuol a dweud y lleiaf a rhaid i Lywodraeth Cymru ein sicrhau eu bod yn hollol ffyddiog eu bod yn ddiogel i’w defnyddio cyn eu cyflwyno ar draws Cymru.”

Galw am osod synwyryddion carbon deuocsid ymhob ysgol, ac am arian i sicrhau awyru digonol

Nifer o undebau addysg Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Addysg Cymru gyda’u galwadau er mwyn lleihau lledaeniad Covid-19 mewn ysgolion