Mae nifer o undebau addysg Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol synwyryddion carbon deuocsid.

Maen nhw’n annog Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, i ariannu systemau awyru mewn ysgolion os yw’r synwyryddion carbon deuocsid yn dangos bod problemau.

Mewn llythyr a gafodd ei anfon at Jeremy Miles ddoe (dydd Mawrth, Awst 24), mae’r undebau, sy’n cynnwys undeb arweinwyr ysgolion NAHT, yn dweud eu bod nhw’n “bryderus mai dim ond ychydig o fesurau lliniaru fydd yn eu lle i arafu lledaeniad Covid-19 mewn ysgolion pan fydd plant yn dychwelyd ym mis Medi”.

“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i osod synwyryddion carbon deuocsid ymhob ysgol yng Nghymru er mwyn adnabod llefydd lle mae awyru gwael, a chyflenwi arian digonol er mwyn sicrhau bod posib mynd i’r afael ag unrhyw lefydd lle mae’r awyru’n wael yn sydyn,” meddai’r llythyr.

“Os oes llefydd o’r fath yn cael eu hadnabod, yna rhaid gweithredu ar frys i sicrhau bod awyru gwell.”

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n archwilio dulliau monitro a gwella ansawdd aer mewn ysgolion

‘Hynod bryderus’

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru, fod yr undeb yn “deall y bydd hylendid dwylo, hunanynsyu i’r rhai sy’n dangos symptomau ac awyru da yn parhau fel yr egwyddorion craidd er mwyn curo’r feirws ac felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod y mesurau hynny’n cael eu cynnal yn gadarn”.

“Dydyn ni ddim yn credu bod y mater o awyru’n cael ei gydnabod er gwaetha’r ffaith fod undebau wedi’i godi dro ar ôl tro,” meddai.

“Mae hyn yn hynod bryderus, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi gosod cynllun i gael gwared ar fesurau lliniaru eraill.

“Mae Llywodraeth San Steffan wedi cymryd cam yn y cyfeiriad cywir drwy addo arian ar gyfer synwyryddion carbon deuocsid mewn ysgolion yn Lloegr.

“Fodd bynnag, er bod adnabod problemau gydag awyru yn hanfodol, dyw e ddim yr un fath â’u datrys.

“Dylai strategaeth genedlaethol gynhwysol sicrhau bod pob dosbarth yng Nghymru’n cael ei awyru’n gywir a bod gan arweinwyr ysgolion fynediad at yr arian sydd ei angen.

“Mae heintiadau Covid-19 ar gynnydd eto yng Nghymru. Mae pawb eisiau i blant allu dychwelyd i addysg yn gynaliadwy yr wythnos nesaf.

“Tra nad yw Llywodraeth Cymru yn cynghori defnyddio mesurau lliniaru eraill mwyach, mae awyru yn bwysig ar gyfer lleihau lledaeniad y feirws a lleihau faint o staff a disgyblion sy’n absennol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn archwilio dulliau monitro a gwella ansawdd aer mewn ysgolion. Bydd manylion pellach ar gael cyn i’r flwyddyn academig newydd ddechrau.”

Plaid Cymru’n galw am Gronfa Cefnogi Awyru er mwyn atal Covid rhag lledaenu mewn ysgolion

Siân Gwenllian yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael er mwyn cadw plant yn ddiogel mewn ysgolion