Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael er mwyn cadw plant yn ddiogel mewn ysgolion, gan gynnwys awyru ysgolion.
Mae canllawiau gan grŵp cynghori SAGE yn argymell awyru ysgolion ar unwaith, ac mae adroddiad arall yn galw am greu cronfa er mwyn cefnogi ysgolion i osod systemau awyru.
Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r gwyliau haf i greu cynlluniau er mwyn sicrhau bod awyru gwell mewn ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pob arf sydd ar gael er mwyn “cadw plant yn ddiogel” ac atal Covid rhag lledaenu ymysg pobol sydd heb eu brechu yng Nghymru, ychwanegodd.
Arf “hanfodol”
“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud defnydd o’r gwyliau haf er mwyn gosod cynlluniau ar gyfer sicrhau awyru iawn mewn ysgolion, gan gynnwys creu cronfa cefnogi awyru, fel sy’n cael ei argymell gan SAGE Annibynnol,” meddai Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd.
“Mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth wyddonol sy’n awgrymu’r rôl anferth mae awyru’n ei chwarae wrth leihau lledaeniad firysau sydd yn yr awyr fel Covid-19; awyru lleoliadau tu mewn yw un o’n harfau hanfodol ar gyfer ymladd Covid.
“Rydyn ni’n gwybod fod bod tu allan yn lleihau’r risg yn sylweddol, felly pam fod y llywodraeth yn betrus i awyru er mwyn lleihau’r lledaeniad mewn ysgolion? Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r arfau sydd gennym ni i gadw plant yn ddiogel, ac atal Covid rhag lledaenu ymysg grwpiau o’r boblogaeth sydd heb eu brechu.”