Does dim amheuaeth fod Cymru ynghanol trydedd don ar hyn o bryd, gyda 145 achos i bob 100,000 person, meddai Mark Drakeford.

Er hynny, dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd yn gynharach heddiw (14 Gorffennaf) nad yw’r cynnydd mewn achosion wedi arwain at gyfraddau uchel o salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai, na marwolaeth fel y tonau diwethaf.

Gan ailadrodd geiriau Dr Frank Atheron, Prif Swyddog Meddygol Cymru, dywedodd Mark Drakeford mewn cynhadledd i’r wasg fod Llywodraeth Cymru yn “gynyddol hyderus” fod y brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion Covid a salwch difrifol, ond nad yw’n torri’r cysylltiad yn llwyr.

Erbyn hyn, mae dros 73% o oedolion Cymru wedi derbyn dau ddos o frechlyn Cymru, o gymharu â 66% yn Lloegr a’r Alban, a 65% yng Ngogledd Iwerddon.

O ystyried hyn, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd un yn llawn Ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf), gan olygu bod chwe pherson yn cael cwrdd dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau, a gellir cynnal digwyddiadau wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 o bobol yn eistedd, a 200 yn sefyll.

Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu, bydd Cymru’n symud at lefel rhybudd sero ar 7 Awst, ond bydd gwisgo masgiau dal yn ofyniad cyfreithiol dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Cyn belled â bod dim amrywiolyn arall sy’n gwrthsefyll y brechlyn yn ymddangos, mae’n annhebygol y bydd rhaid mynd yn ôl at yr un math o gyfnod clo eto, meddai Mark Drakeford.

Ychwanegodd fod y gallu i lacio cyfyngiadau yn dibynnu ar faint o bobol sy’n derbyn y brechlyn.

17 Gorffennaf

Yn ogystal â newidiadau ar gyfer cyfarfod dan do, bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer cwrdd tu allan hefyd yn digwydd Ddydd Sadwrn wrth i Gymru gymryd cam cyntaf tuag at lefel rhybudd sero.

Mae y rhain yn cynnwys:

  • Dim cyfyngiadau ar gyfer faint o bobol all gyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau tu allan.
  • Mwy o hyblygrwydd o ran pellter corfforol mewn digwyddiadau a safleoedd awyr agored.

Gan esbonio pam nad yw’r wlad yn symud i lefel sero nawr, ac yn aros nes o leiaf 7 Awst, dywedodd Mark Drakeford “nad ydych chi eisiau gwneud y pethau â mwyaf o risg gyntaf”.

Yn y sefyllfa yma, codi’r cyfyngiadau mewn sefyllfaoedd dan do fyddai’n peth â mwyaf o risg iddo, felly mae’n ffafrio gwneud newidiadau ar gyfer cyfarfod tu allan i ddechrau.

Lefel sero

Wrth symud i lefel sero yn llawn ni fydd cyfyngu ar nifer y bobol sy’n cael cyfarfod, ond “ni fydd pawb yn gallu gwneud fel maen nhw eisiau”.

“Ni fyddwn ni’n troi’n cefnau ar fesurau syml ond effeithiol,” meddai’r Prif Weinidog.

Bydd gwisgo masgiau dal yn ofyniad cyfreithiol dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl symud i lefel rhybudd sero, oni bai am o fewn addysg a lletygarwch.

Gyda’r rheolau ynghylch gwisgo masgiau yn wahanol yn Lloegr, dywedodd Mark Drakeford fod Boris Johnson yn ei “chael hi’n anodd” dweud yn glir fod cyfyngiadau Covid y Deyrnas Unedig yn berthnasol i Loegr yn unig.

Bydd ymbellhau cymdeithasol yn un o’r pethau y gall busnesau ei wneud yn y dyfodol i ddiogelu cwsmeriaid wrth iddyn nhw gynnal asesiadau risg Covid, meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd e yna ochr yn ochr gyda mesurau eraill, yn hytrach na mesur ar wahân fel mae e ar hyn o bryd,” meddai Mark Drakeford.

Fodd bynnag, ni fydd y gorchymyn fel y mae ar hyn o bryd yn parhau pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio ar 7 Awst.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gynghori pobol i weithio o adre ar ôl 7 Awst hefyd.

Teithio rhyngwladol

O 19 Gorffennaf, ni fydd rhaid i deithwyr sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr ambr.

Dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd heddiw (14 Gorffennaf) ei fod yn “gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y gofyniad i deithwyr sydd wedi’u brechu’n ddwbl i hunan-ynysu wedi iddynt ddychwelyd o wledydd y rhestr ambr.

“Nid yw’r risg o ail-fewnforio coronafeirws o rannau eraill o’r byd, ac yn enwedig amrywiolion newydd pellach, wedi diflannu,” meddai.

“Mae’n anodd deall cael gwared ar amddiffyniad yn erbyn y risg honno, ac yn enwedig ar adeg pan fo’r feirws mewn cylchrediad mor gyflym.

“Ond, oherwydd bod mwyafrif helaeth y teithio rhyngwladol i ac o Gymru trwy Loegr, mae, fel y dywed ein Prif Swyddog Meddygol, yn ‘anghynaladwy’ inni beidio â gwneud yr un peth.

“Fodd bynnag, rydym yn parhau i gynghori yn erbyn popeth ond teithio hanfodol dramor ac rydym yn argymell yn gryf i bobl gymryd gwyliau gartref yr haf hwn.”

Gan fanylu ar y sefyllfa yn y gynhadledd i’r wasg, dywedodd Mark Drakeford mai dyma’r maes y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi anghytuno arno fwyaf.

“Byddem ni wedi rhoi pob man ar y rhestr goch, dim byd oni bai am deithio hanfodol,” meddai Mark Drakeford, gan bwysleisio y byddai Cymru wedi cymryd fwy gofalus.

Hunanynysu

Ni fydd pobol sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn yn gorfod hunanynysu o 7 Awst os ydyn nhw wedi dod i gysylltu â phobol sydd wedi profi’n bositif chwaith.

Bydd rheolau ychwanegol er mwyn gwarchod pobol sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal, ychwanegodd Mark Drakeford.

“Ond os oes gennych chi symptomau coroanfeirws neu os ydych chi’n profi’n bositif, bydd angen hunanynysu os ydych chi wedi’ch brechu’n llawn neu beidio.”

  • Gallwch ddarllen rhagor am y newidiadau i’r rheoliadau isod.

Cymru’n symud yn llawn i lefel rhybudd un ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf

Dylai Cymru allu symud at lefel rhybudd sero ar 7 Awst – ond bydd gwisgo masgiau dal yn ofyniad cyfreithiol dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus