Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd Cymru’n symud yn llawn i lefel rhybudd un ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf) ymlaen.
Cafodd y newidiadau hyn eu gohirio bedair wythnos yn ôl yn sgil lledaeniad amrywiolyn Delta, ac er mwyn caniatáu amser i frechu mwy o bobol yng Nghymru.
Bydd y newidiadau yn cynnwys caniatáu i chwech o bobol gyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau, a gellir cynnal digwyddiadau wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 o bobol yn eistedd, a 200 yn sefyll.
Bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer cwrdd tu allan hefyd wrth i Gymru gymryd cam cyntaf tuag at lefel rhybudd sero.
Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu, bydd Cymru’n symud at lefel rhybudd sero ar 7 Awst, ond bydd gwisgo masgiau dal yn ofyniad cyfreithiol dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
17 Gorffennaf:
- Hyd at chwe pherson yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
- Gellir cynnal digwyddiadau wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd, a hyd at 200 yn sefyll.
- Gall canolfannau sglefrio iâ ailagor.
- Dim cyfyngiadau ar gyfer faint o bobol all gyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau.
- Mwy o hyblygrwydd o ran pellter corfforol mewn digwyddiadau a safleoedd awyr agored.
- Hyd at 30 o blant yn cael ymweld â chanolfannau gweithgarwch preswyl.
- Gofyniad penodol i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth ar y risgiau a’r camau lliniaru yn eu hasesiad risg Covid-19 i’w gweithwyr.
Lefel rhybudd sero – 7 Awst?
Os bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero ar 7 Awst, bydd pob safle yn cael agor, a’r rhan fwyaf – er nad pob un – o’r cyfyngiadau yn dod i ben.
Bydd rhaid i bob sefydliad a busnes gynnal asesiadau risg Covid, a bydd rhaid yn penderfynu pa fesurau rhesymol y mae angen eu cymryd er mwyn cadw gweithwyr, cwsmeriaid, ac ymwelwyr yn ddiogel.
Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobol all gyfarfod â’i gilydd dan do chwaith, gan gynnwys mewn cartrefi preifat.
Bydd yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus o 7 Awst, ac eithrio lleoliadau lletygarwch.
Yn unol â’r drefn yn Lloegr a’r Alban, ni fydd rhaid i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn y Deyrnas Unedig hunanynysu wrth ddychwelyd o wlad sydd ar y rhestr oren o ddydd Llun ymlaen (19 Gorffennaf).
“Cyfnod newydd”
“Rydyn ni’n dechrau ar gyfnod newydd yn y pandemig. Mae niferoedd yr achosion o’r feirws wedi codi’n sydyn ers i amrywiolyn Delta ddod i’r amlwg chwe wythnos yn ôl, ond diolch i’n rhaglen frechu ragorol, dydyn ni ddim yn gweld niferoedd mawr o bobl yn mynd yn ddifrifol sâl nac yn gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Fe allwn ni fod yn rhesymol hyderus bod y rhaglen frechu wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Ond mae yna risg o hyd y gallai’r drydedd don hon o’r pandemig greu niwed gwirioneddol – naill ai yn uniongyrchol yn sgil y feirws neu’n anuniongyrchol, er enghraifft yn sgil gorfod ynysu.
“Fe allwn ni symud i lefel rhybudd un ar gyfer ardaloedd dan do o 17 Gorffennaf a mynd ymhellach o ran ardaloedd awyr agored gan ein bod ni’n gwybod bod y risg o drosglwyddo’r feirws y tu allan yn is.
“Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer lefel rhybudd sero newydd, a fydd yn golygu llai o gyfyngiadau cyfreithiol, ond lle bydd yn dal i fod angen i bob un ohonon ni gymryd camau i’n diogelu ein hunain.
“Dydy’r pandemig ddim drosodd, ac mae’r feirws yn dal i ledaenu ar draws Cymru. Mae’n bwysig, felly, bod pawb yn derbyn y cynnig i gael eu brechu a’n bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’n cadw ein hunain a’n hanwyliaid yn ddiogel,” ychwanegodd.
“Er bod y brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng y feirws a’r angen i fynd i’r ysbyty, rydyn ni’n gweld pobl ifanc, heini yn dioddef o COVID hir, sydd, yn achos rhai, yn cael effaith enfawr ar eu bywydau.
“Mae yna hyblygrwydd i barhau i wneud i ffwrdd yn raddol â’r cyfyngiadau, ond mae gan bob un ohonon ni ran bwysig iawn i’w chwarae er mwyn cadw Cymru yn ddiogel wrth inni ddechrau ar gyfnod yr haf.”
“Dysgu byw gyda’r feirws”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae’r Ceidwadwyr wedi dweud eu bod nhw’n “falch” fod Mark Drakeford wedi cyhoeddi cynllun manwl ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r eglurdeb hirddisgwyliedig hwn gan weinidogion Llafur, ac rydyn ni’n falch eu bod nhw wedi gwrando ar ein galwadau i gyhoeddi cynllun manwl ar gyfer llacio cyfyngiadau ac adfer rhyddid yng Nghymru,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr.
“Er ein bod ni’n siomedig mai Llywodraeth Lafur Cymru yw’r llywodraeth olaf ym Mhrydain i gyhoeddi cynllun, mae’n achos o well hwyr na byth, a bydd codi’r cyfyngiadau’n sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi ein heconomi a gwasanaethau cyhoeddus ar eu ffordd at adferiad.
“Diolch i’r rhaglen frechu andros o lwyddiannus, rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr wrth adennill ein ffordd arferol o fyw, gyda’r cysylltiad rhwng achosion a derbyniadau i ysbytai wedi gwanhau’n sylweddol.
“Yn anffodus, ni fydd amser perffaith i godi’r holl gyfyngiadau, ac yn anffodus, ni fydd yr un dyddiad yn dod gyda dim risg, ond gyda brechlynnau’n gweithio, rydyn ni angen dechrau’r gwaith pwysig o ailadeiladu’r economi Gymreig.
“Gyda rhai cyfyngiadau am aros mewn lle am dair wythnos arall o leiaf, a gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn eistedd ar £1.2 biliwn o arian sydd heb ei ddyrannu, mae’n hanfodol nawr ei fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r busnesau hynny sy’n parhau i gael eu heffeithio.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu byw gyda’r feirws, ac mae’n rhaid i ni gyd barhau i reoli’r risgiau’n ofalus a gwneud penderfyniadau ein hunain o ddydd i ddydd.”
“Llwybr clir”
Y peth pwysig ynghylch y cyhoeddiad yw bod Llywodraeth Cymru “heb ddilyn amserlen annoeth” Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer codi’r cyfyngiadau, meddai Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd.
“Y peth pwysig yw bod Llywodraeth Cymru heb ddilyn yr amserlen annoeth sy’n cael ei gosod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i godi’r holl gyfyngiadau pan mae nifer yr achosion yn cynyddu,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal.
“Dw i eisiau llwybr clir tuag at godi’r cyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf, ond dw i nawr yn edrych ymlaen at gael cadarnhad cliriach y bydd pobol yn gorfod gwisgo mygydau ymhob sefyllfa dan do lle mae cysylltiad agos, gan gynnwys mewn siopau.”