Mae cyn-llefarydd y Ceidwadwyr tros Ddiwylliant a’r Gymraeg wedi beirniadu’r Ceidwadwyr Cymreig am wrthwynebu penderfyniad y bydd angen Cymraeg sylfaenol wrth ymgeisio am swyddi o fewn Llywodraeth Cymru.

Roedd Lisa Francis yn Aelod Ceidwadol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn llefarydd y Gymraeg rhwng 2003-2007.

Mae’n beirniadu gwrthwynebiad y Ceidwadwyr i benderfyniad Llywodraeth Cymru y bydd y Gymraeg yn cael ei nodi fel “sgil dymunol, hanfodol neu i’w dysgu yn y swydd” wrth hysbysebu pob swydd wag a swydd newydd o fewn y llywodraeth.

Wrth siarad â golwg360 dywedodd “Mae’n fy siomi ac yn fy nhristhau”.

“Mae newid ethos wedi bod o fewn y Blaid [Geidwadol]. Pan oeddwn i yno, roeddwn yn gwthio am fwy o ddatganoli a thros Gymru ddwyieithog.

“Ond mae’n ymddangos fod y grŵp presennol sydd yno yn rhwyfo nôl safbwyntiau oedd gennym ni o amddiffyn, magu a datblygu’r iaith.”

Y nod gan Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod staff o fewn y llywodraeth yn gallu dangos “lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol o leiaf o safbwynt sgiliau Cymraeg” o fewn chwe mis.

Daw ei gwrthwynebiad i’r amlwg wrth ymateb i sylwadau gan Tom Giffard AoS dros Dde-orllewin Cymru a gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr dros ddiwylliant, twristiaeth a chwaraeon.

Dywedodd Tom Giffard fod y llywodraeth yn “eithrio 75% o bobl yng Nghymru rhag weithio yn y llywodraeth”.

Fe ymatebodd Lisa Francis gan ddweud: “Fel cyn-lefarydd dros y Gymraeg i’r Ceidwadwyr (2003-7), dwi’n gweld hyn yn eithaf rhyfeddol ac mae’n dangos pa mor bell i’r dde mae’r grŵp wedi symud rwy’n ofni”

Beirniadwyd y penderfyniad gan y Ceidwadwyr Cymreig wrth iddynt fynnu y dylai’r llywodraeth gyflogi’r “person gorau ar gyfer y swydd”.

Mewn datganiad dywedodd y blaid: “Ar hyn o bryd nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru – bron i dri chwarter – yn siarad Cymraeg, ond ni ddylai hynny eu gwahardd rhag gweithio yn y gwasanaeth sifil a chyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru”.

Mae Lisa Francis yn wreiddiol o Lundain ond symudodd i Gymru pan oedd yn naw mlwydd oed gan ddysgu Cymraeg.

Mae’n ystyried ei hun yn Brydeiniwr ac yn Gymraes falch ac yn daer dros y Deyrnas Unedig ond mae digwyddiadau diweddar yn codi cwestiynau personol iddi am hynny.

‘Cofleidio cenedlaetholdeb Seisnig’

Mae’n teimlo bod newid yn agwedd y blaid tuag at y Gymraeg a Chymru a bod hynny’n niweidiol i ddelwedd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

“Yn y misoedd diwethaf rydym wedi gweld y Ceidwadwr yn y bae yn dynwared yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan.

“Maen nhw wedi dewis ymgeiswyr yn yr etholiad diwethaf oedd yn gwneud hi’n glir bod datganoli yn gamgymeriad a byddai am gael gwared ar y Senedd”.

“Maen nhw’n defnyddio gwleidyddiaeth boblogaidd ac yn cofleidio delwedd cenedlaethgar Seisnig sydd gan Boris Johnson fel modd o ddwyn penawdau newyddion, dydy’r holl beth heb gael ei feddwl trwyddo.” meddai.

Mae’n rhyfeddu nad yw’r blaid yn gallu cefnogi Rhaglen Waith newydd Jeremy Miles ar gyfer Cymraeg 2050.

Un o’r cerrig milltir interim yw sicrhau bod 30% o blant Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2031.

“Dydy hyn ddim yn gofyn gormod. Dw i methu a deall pam na all y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi hynny.

“Mae’n fodern, mae’n ffres mae’n hollol hawdd i weithredu a byddai hanner gwledydd Ewrop yn cofleidio polisi fel hwn.”

“Mae’r iaith yn perthyn i bawb ac mae cael mwy o bobl i siarad Cymraeg yn anodd. Mae’r pwysau ar ysgwyddau rhieni uniaith Saeseng sydd am addysg Gymraeg i’w plant yn ogystal ag ysgwyddau’r wladwriaeth o ran ariannu hynny,” meddai.

‘Prin iawn o geidwadwyr Cymedrol yn y Senedd’

Mae hi’n teimlo bod sylwadau fel hyn gan ei phlaid yn amlygu ei bod hi yn y lleiafrif  o Geidwadwyr Cymreig erbyn heddiw.

“Roeddwn i am aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Ceidwadwyr cymedrol fu unwaith ar lawr y Senedd ’di gadael fel David Melding a Nick Bourne ac mae yna lwyth gwahanol iawn wrth y llyw nawr.

“Mae hynny’n fy nhristau. Fe wnaeth y Ceidwadwyr gymaint o ymdrech i gofleidio datganoli a Chymreictod yn y blynyddoedd cynnar ac mae’r safbwynt sy’n cael ei meddu gan y Blaid erbyn hyn yn gwbl negatif.

“Mae’n deg dweud nad Ceidwadaeth Andrew RT Davies yn cydfyd â fy Ngheidwadaeth innau.”

Swyddi Llywodraeth Cymru i restru’r Gymraeg fel “sgil dymunol, hanfodol, neu i’w dysgu yn y swydd”

Disgwyl i ymgeiswyr gael neu feithrin gwybodaeth sylfaenol o’r iaith yn y gweithle