Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, wedi codi pryderon am gwmnïau rhyngwladol yn prynu cannoedd o erwau o dir yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ar gyfer plannu coed, a’r effaith negyddol y gallai gael ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd aelod Plaid Cymru fod ffermwyr wedi adrodd yn ddiweddar bod ffermydd cyfan, cymaint â 300 erw, wedi cael eu prynu gan gwmnïau rhyngwladol mawr i wrthbwyso eu hôl troed carbon.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, galwodd am ymgyrch plannu coed wedi’i reoleiddio sy’n parchu bioamrywiaeth a chymunedau lleol.

“Mae’r costau hynny’n peri her gynyddol i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig,” meddai.

Awgrymodd Anne-Marie Trevelyan, y Gweinidog dros Fusnes, Ynni a Thwf Glân, y dylai Ben Lake siarad â’r Gweinidog Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i drafod cyllid a allai gael ei ddyrannu i’r cymunedau o dan sylw.

“Rwy’n cymeradwyo ac yn cytuno gydag ef a’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd (Liz Saville Roberts), ac yn rhannu eu hangerdd dros yr holl atebion hynny sy’n seiliedig ar natur,” meddai.

“Tanseilio”

Ychwanegodd Ben Lake na ddylai mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn gyfle i gwmnïau mawr wrthbwyso eu hallyriadau’n tra’n parhau i ollwng miliynau o dunelli o garbon deuocsid i’r amgylchedd.

“Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i brosiectau plannu coed fod â rheolaeth leol, gyda chymunedau gwledig yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru fel eu bod yn elwa o’r newid hwn.

“Rhaid i ni beidio â chaniatáu i fusnesau brynu ffermydd, caniatáu i gymunedau gwledig a’r Gymraeg gael eu tanseilio er mwyn bodloni tueddiadau busnes.”

Ddoe, roedd Llywodraeth Cymru yn annog pobol y wlad i blannu mwy o goed er mwyn ceisio mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rhaid plannu tua 86 miliwn o goed yng Nghymru dros y naw mlynedd nesaf er mwyn cyrraedd y targed allyriadau sero-net erbyn 2050, yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Yn ôl Lee Waters, dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, mae coed yn mynd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwella ansawdd yr aer, ynghyd â gwella natur a llesiant meddwl pobol.