Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol y wlad i blannu mwy o goed er mwyn ceisio mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rhaid plannu tua 86 miliwn o goed yng Nghymru dros y naw mlynedd nesaf er mwyn cyrraedd y targed allyriadau sero-net erbyn 2050, yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Yn ôl Lee Waters, dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, mae coed yn mynd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwella ansawdd yr aer, ynghyd â gwella natur a llesiant meddwl pobol.
“Er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, rhaid i Gymru newid ei cham wrth greu coedlannau a thrawsnewid y ffordd mae pren Cymru’n cael ei ddefnyddio ar draws ein heconomi,” meddai Lee Waters.
“Yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, er mwyn cyrraedd sero-net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan gynyddu i 180,000 erbyn 2050. Mae hynny’n golygu plannu tua 86 miliwn o goed dros y naw mlynedd nesaf.
“Llynedd, ychydig dros 290 hectar o goedlannau gafodd eu plannu yng Nghymru.”
“Her anferth”
Dywedodd Lee Waters ei fod e’n gweithio gydag arbenigwyr er mwyn deall sut i gynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu bob blwyddyn “yn ddramatig”.
“Mae hi’n her anferth a fydd hi ond yn bosib drwy gynghrair er newid, gan gynnwys sawl partner a phob teulu yng Nghymru,” ychwanegodd.
“Heddiw dw i’n gwneud galwad genedlaethol, gan ofyn i bawb ymuno â ni i gyflawni’r her i blannu mwy o goed i Gymru.”
Fel rhan o’r cynllun, bydd pobol a chymunedau ledled Cymru’n cael eu hannog i blannu coed.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i adnabod lle y gellir plannu coed hefyd.
Creu swyddi
Ar hyn o bryd, mae 80% o’r pren sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn cael ei fewnforio, a dim ond 4% o’r pren sy’n cael ei dyfu yng Nghymru sy’n cael ei brosesu er mwyn ei ddefnyddio fel pren adeiladu.
Mae’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer cynnyrch â gwerth is, fel polion ffens, panelu, paletau, a deciau.
Mae Gweinidogion yn bwriadu creu swyddi yng Nghymru drwy ddatblygu economi Gymreig newydd ar gyfer pren.
“Bydd cyfarfod sero-net, yn enwedig yn y sector adeiladu, yn golygu defnyddio mwy o bren o Gymru,” meddai Lee Waters.
“Mae hynny’n golygu fod rôl bwysig i goedlannau cynhyrchiol dyfu mwy o bren Cymreig yn gynaliadwy, yn hytrach na mewnforio pren sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd dramor.
“Mae yna gyfle i broseswyr a chynhyrchwyr pren dyfu yng Nghymru, a chreu mwy o swyddi.
“Bydd hyn yn gofyn am gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau bod pren Cymreig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nwyddau â gwerth uchel, a bod cymaint o’r arian â phosib sy’n cael ei greu yn aros yng Nghymru.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn agor grant buddsoddi mewn coedlannau’n ddiweddarach yr wythnos hon, fel rhan o’u cynlluniau ar gyfer Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Mae disgwyl i Lee Waters wneud datganiad ynghylch y cynlluniau yn y Senedd heddiw (13 Gorffennaf).