Mae arweinwyr meddygon wedi condemnio penderfyniad “anghyfrifol” Boris Johnson i fwrw mlaen i godi cyfyngiadau yn Lloegr er bod nifer yr achosion o Covid-19 yn parhau i gynyddu.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi rhybuddio am “ganlyniadau dinistriol posib” ar ôl i’r Prif Weinidog gadarnhau ddydd Llun (12 Gorffennaf) y bydd y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau yn dod i ben wythnos nesaf.
Mewn cynhadledd newyddion yn Downing Street roedd Boris Johnson wedi cydnabod “nad yw’r pandemig drosodd” ac mae wedi apelio ar bobl i bwyllo.
Ar yr un pryd, dywedodd y byddai gohirio llacio’r cyfyngiadau tan yr hydref yn peri risg o ail-agor yn ystod cyfnod pan mae’r ysgolion yn ail-ddechrau ar ôl gwyliau’r haf, a phobl yn treulio mwy o amser tu fewn wrth i’r tywydd oeri.
Serch hynny, mae Dr Chaand Nagpaul, cadeirydd cyngor y BMA, yn dweud bod y Llywodraeth yn torri addewid o wneud penderfyniadau ar sail y data a’r effaith ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) drwy fwrw mlaen i lacio’r cyfyngiadau ar 19 Gorffennaf.
Dywedodd y byddai sgrapio’r cyfyngiadau pan mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn dal heb gael eu brechu’n llawn yn caniatáu i’r firws “ddal ei afael” gan gynyddu nifer yr achosion a rhoi mwy o fywydau mewn perygl.
“Mae’n anghyfrifol – ac, a bod yn onest, yn beryglus – bod y Llywodraeth wedi penderfynu bwrw mlaen gyda’r cynlluniau i godi gweddill y cyfyngiadau Covid-19 ar 19 Gorffennaf,” meddai.
Ychwanegodd bod y BMA wedi rhybuddio droeon am gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion ac effaith hynny ar nifer y bobl oedd angen triniaeth yn yr ysbyty a’r effaith ar y GIG.
Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod achosion yn parhau i gynyddu gyda 34,471 yn rhagor o achosion yn y Deyrnas Unedig erbyn bore ddoe (Dydd Llun, 12 Gorffennaf).
Mae disgwyl ton arall tua chanol mis Awst gyda rhagolygon y bydd hyd at 1,000 i 2,000 o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth bob dydd, ac mae disgwyl i nifer y marwolaethau fod rhwng 100 a 200 y dydd.
Mae penderfyniad y Llywodraeth yn golygu y bydd rheolau ymbellhau’n gymdeithasol yn dod i ben ac ni fydd yn ofynnol i wisgo mygydau.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chamau nesaf ddydd Mercher, a bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon y cyhoeddi heddiw a fydd cyfyngiadau ar draws y wlad yn cael eu llacio ar 19 Gorffennaf.