Bydd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn parhau fel Aelod Seneddol annibynnol, er bod ei waharddiad o Blaid Cymru’n dod i ben.

Cafodd ei wahardd o’r blaid am flwyddyn ym mis Gorffennaf llynedd, wedi iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ôl cael ei arestio yn ei gartref.

Dydi Plaid Cymru heb dderbyn cais ganddo er mwyn ailymuno â’r blaid.

Fe wnaeth Jonathan Edwards gyfeirio ei hun at broses ddisgyblu Plaid Cymru, a chydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad ar y pryd.

Er mwyn codi’r gwaharddiad ar ôl deuddeg mis, byddai’n rhaid iddo ymddangos gerbron y panel a dangos ei fod wedi treulio cyfnod o amser yn myfyrio ar ei weithredoedd ac yn dysgu ohonyn nhw.

“Cynrychioli ei etholwyr”

Mae’r BBC ar ddeall nad yw Jonathan Edwards wedi gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â’i ddyfodol, ond ar hyn o bryd mae e’n parhau fel Aelod Annibynnol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Aelod Seneddol fod “holl ffocws Mr Edwards ar y dasg o gynrychioli etholwyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fel y bu trwy gydol ei 11 mlynedd fel yr Aelod Etholedig yn San Steffan”.

“Ni fydd Mr Edwards yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd,” meddai.

Mewn datganiad ar y pryd dywedodd mai dyma’r peth mae’n “ei ddifaru fwyaf” yn ei fywyd o “bell ffordd.”

Mae ei wraig hefyd wedi gwneud sylw am y mater, ac wedi dweud ei bod hi wedi derbyn ymddiheuriad ei gŵr.

“Drwy gydol y degawd rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd, mae e wedi bod yn ŵr a thad cariadus a charedig,” meddai llynedd. “O’m rhan i, mae’r mater bellach ar ben.”

“Nid yw Plaid Cymru wedi derbyn cais gan Mr Edwards i ailymuno,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.