Cafodd 109 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos hyd at 2 Gorffennaf lle’r oedd Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y tystysgrif marwolaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae hyn yn gynnydd o 10% ers yr wythnos flaenorol.

Dyma’r cyfanswm uchaf o farwolaethau ers i 151 o bobl farw yn yr wythnos hyd at 14 Mai.

Cafodd tair marwolaeth eu cofnodi yng Nghymru, o’i gymharu ag un yn yr wythnos flaenorol.

Cafodd tua 11 o farwolaethau mewn cartrefi gofal eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr lle’r oedd Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth yn yr wythnos hyd at 2 Gorffennaf. Mae hyn yn gynnydd bach ers y 10 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yn yr wythnos flaenorol.

Mae Covid-19 wedi cael ei grybwyll ar dystysgrif marwolaeth cyfanswm o 42,567 o breswylwyr mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr ers dechrau’r pandemig.

Daw hyn wrth i Boris Johnson baratoi i godi’r cyfyngiadau yn Lloegr ar 19 Gorffennaf. Mae meddygon wedi rhybuddio bod y penderfyniad yn “anghyfrifol”.