Mae pryderon wedi’u codi ynghylch cynlluniau i adeiladu ysgol Saesneg newydd yng Nghwm Tawe ar gyfer dros 700 o blant.

Yn ogystal â phryderon am yr ymgynghoriad dros gau’r ysgol, mae’r cynlluniau wedi achosi pryder ynghylch dyfodol y Gymraeg yn yr ardal.

Bwriad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw cau tair ysgol Saesneg, ac adeiladu’r safle newydd ym Mhontardawe erbyn mis Medi 2024.

Byddai’n golygu fod ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn Alltwen, Llangwig yn Ynysmeudy, a Godre’r Graig yn cau cyn adeiladu ysgol newydd ar gyfer 630 o ddisgyblion llawn amser, a 140 o blant meithrin rhan amser.

Allan o’r 234 o ymatebion a gafodd y Cabinet drwy’r ymgynghoriad, dim ond 21 ohonyn nhw oedd o blaid y cynlluniau.

Ar ben hynny, roedd 413 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau’r tair ysgol, ac adeiladu un fawr.

Mae gan bobol yr ardal tan fory (14 Gorffennaf) i roi eu barn am y cynlluniau, cyn bod y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol wedyn.

“Effaith niweidiol”

Yn ôl Sioned Williams, Aelod o’r Senedd dros dde-orllewin Cymru, mae ganddi bryderon fod dim asesiad Cymraeg wedi digwydd yn ystod yr ymgynghoriad.

Byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar y ddarpariaeth yn Ysgol Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gymraeg Trebannws, meddai, yn ogystal ag amharu ar dwf addysg Gymraeg yn ardal Pontardawe.

Byddai hynny yn ei dro wedyn yn effeithio ar drosglwyddiad disgyblion i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, ac yn mynd yn groes i nodau’r sir a strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, meddai Sioned Williams, sy’n Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru.

“Rwyf hefyd yn rhannu pryderon trigolion lleol o ran yr effaith ar draffig yn yr ardal hon o Bontardawe os datblygir yr ysgol newydd hon,” meddai Sioned Williams.

“Mae’r lleoliad yn anaddas gan y bydd yn cynyddu traffig sydd eisoes yn hynod brysur a fydd yn anochel yn cynyddu lefelau llygredd aer. Mae hyn yn groes i nodau penodol Llywodraeth newydd Cymru o ran gwella llygredd aer ac annog pobl rhag defnyddio eu ceir.

“I mi, mae effaith niweidiol y cynllun ar deuluoedd difreintiedig yn un o’i ddiffygion mwyaf difrifol ac nid yw’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’r agwedd hon yn ddigonol.

“Os yw’r cynlluniau’n golygu bod hyd yn oed un plentyn yn colli allan ar ddarpariaeth feithrin oherwydd nad yw’n gallu mynd i’r ysgol heb ddefnyddio car, yna un plentyn yn ormod yw hynny.

“Yn yr un modd, bydd colli mynediad at glwb brecwast yn y gymuned a darpariaeth ar ôl ysgol yn cael effaith andwyol ar y rhai sydd angen y gefnogaeth hon fwyaf.

“Mae cymunedau bywiog yn hanfodol i gymdeithas lewyrchus a chydweithredol.

“Mae’r cynlluniau yn disodli ysgolion hyfyw, llwyddiannus a hygyrch, sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymuned ac yn cyfrannu’n fawr at fywyd a lles y cymunedau hynny, gyda strwythur sydd heb gefnogaeth ac a ystyrir yn amhriodol gan fwyafrif llethol y rhieni, llywodraethwyr, trigolion lleol a chynrychiolwyr lleol. Rwy’n gwrthwynebu’r cynlluniau yn y termau cryfaf posibl.”

“Effaith negyddol bellgyrhaeddol”

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn fod yr ymgynghoriad cychwynnol ar y cynlluniau’n ddiffygiol, a’r asesiad effaith ieithyddol, a ddigwyddodd wedyn, yn ddiffygiol iawn.

Gan alw ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i dynnu’r cynllun yn ei ôl, maen nhw’n dweud y dylid ail ystyried cynlluniau ysgolion ar gyfer yr ardal gan roi ystyriaeth lawn o’r dechrau i’r effaith ar y Gymraeg.

“Mae’r cynnig yn debygol iawn o gael effaith negyddol ar yr iaith yng Nghwm Tawe,” meddai Dyfodol i’r Iaith.

“Mae Pontardawe ynghanol y brif ardal o sensitifrwydd ieithyddol a ddiffinnir gan y Cyngor, a bydd cael ysgol gynradd Saesneg newydd fawr ym Mhontardawe’n debygol iawn o effeithio’n niweidiol ar niferoedd sy’n mynychu ysgolion Cymraeg Trebannws a Phontardawe, sydd â hen adeiladau, er gwaetha rhai ychwanegiadau.

“Nid yw’r asesiad effaith ieithyddol yn ystyried y cyfraniad y gall ysgol Saesneg ei wneud i gyflwyno sgiliau Cymraeg i’w disgyblion. Sonnir am ddysgu’r Gymraeg yn ‘ail iaith’, heb ystyried cyflwyno’r Gymraeg ar un continwwm, a heb ystyried chwaith y posibilrwydd o greu ysgol drosiannol, lle y gall ysgol droi fesul blwyddyn tuag at fod yn ysgol Gymraeg.

“Nid yw’r asesiad yn ystyried sut y gall lleoli ysgol gynradd o 700 o blant gael effaith negyddol bellgyrhaeddol ar y Gymraeg yng Nghwm Tawe,” ychwanega Dyfodol i’r Iaith.

“Dylai ystyriaeth o’r fath nodi posibiliadau ieithyddol codi gwahanol fathau o ysgol yn yr ardal.  Nid oes awgrym o’r posibilrwydd o drosi’r ysgolion cynradd presennol yn rhai trosiannol, nac o sefydlu ysgol o’r fath ym Mhontardawe.

“Ein barn ni yw bod yr ymgynghoriad cychwynnol wedi bod yn ddiffygiol, a bod yr asesiad effaith ieithyddol yn ddiffygiol iawn.

“Gofynnwn i chi dynnu’r cynllun hwn yn ôl, ac ail ystyried cynlluniau ysgolion ar gyfer yr ardal hon, gan roi ystyriaeth lawn o’r cychwyn i’r goblygiadau ieithyddol, ac i’r cynnydd ieithyddol y gellir eu gwneud trwy gyflwyno cynlluniau addysgol â gweledigaeth, a fydd yn rhoi i ddisgyblion Cwm Tawe y gorau o ran eu datblygiad personol ac ieithyddol yn y ddwy iaith, ac a fydd yn rhoi’n gyflawn iddynt eu hetifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.”