Mae dyn 18 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 19 oed, yn Rhosymedre ger Rhiwabon, Wrecsam.
Bu farw Kyle Patrick Walley mewn digwyddiad yn ardal Eglwysfan, Rhosymedre nos Sul (11 Gorffennaf), ac yn fuan wedyn cafodd dyn lleol 18 oed ei arestio, ac mae e’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Kyle Walley wedi talu teyrnged iddo gan ddweud ei fod e’n fachgen “gofalgar, hoffus a charedig”, gyda’i fywyd i gyd o’i flaen.
Mae amgylchiadau’r digwyddiad wedi bod yn destun dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai Heddlu Gogledd Cymru, a lluniau graffig wedi cael eu dosbarthu’n eang.
Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio’r cyhoedd rhag rhannu’r rhain ymhellach, ac ar hyn o bryd mae eu hymholiadau’n parhau.
“Mae ein hymholiadau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond hoffwn sicrhau’r gymuned leol bod hwn yn ddigwyddiad ynysig, ac nid oes rheswm dros bryderu ymhellach,” meddai’r Ditectif Arolygydd Chris Bell.
“Rwy’n ymwybodol bod lluniau graffig iawn wedi cael eu dosbarthu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddwn yn rhybuddio aelodau o’r cyhoedd rhag rhannu rhain ymhellach.”
“Cymorth a thawelwch meddwl”
“Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad â theulu Kyle yn y cyfnod hynod anodd hwn,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield.
“Mae’r amgylchiadau o ran y digwyddiad hwn wedi bod yn destun dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol yn eang.
“Rydym yn ymwybodol y gall fod llawer o bobl ifanc wedi’u heffeithio gan hyn.
“Fel y cyfryw, mae Swyddogion Cyswllt Ysgolion a’r Tîm Plismona Cymdogaethau yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yng Nghyngor Wrecsam er mwyn cynnig cymorth a thawelwch meddwl priodol i’r gymuned leol.”
“Mae’r adrannau gofal cymdeithasol plant ac addysg yn Wrecsam wedi bod wrthi’n trafod yr angen i gynorthwyo unrhyw blant a phobl ifanc a all gael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn,” ychwanegodd llefarydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
“Gwnaiff staff addysg a gofal cymdeithasol gynnig cymorth emosiynol i blant neu bobl ifanc pan mae angen.”
Bachgen “gofalgar, hoffus a charedig”
Gan dalu teyrnged i Kyle Patrick Walley, dywedodd ei deulu ei fod e’n fachgen “gofalgar, hoffus a charedig”.
“Dim ond 19 oed oeddet ti Kyle, gyda dy fywyd i gyd o dy flaen. Ein hogyn ni. Roeddet yn ofalgar, hoffus a charedig. Roeddet yn gwneud i ni chwerthin a gwenu. Roedd gen ti gymaint i edrych ymlaen ato: prentisiaeth yn y coleg ym mis Medi a llawer mwy,” meddai ei deulu.
“Rydym wedi cael ein chwalu. Bydd cymaint o bobl yn dy golli’n fawr. Roedd gen ti’r wen a’r synnwyr digrifwch mwyaf. Cariad mawr gan Mam, Dad, Lee, Johnathan, Caitlin, Nanna, Aunty a phawb oedd yn dy adnabod.”