Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ymestyn y cynllun i gefnogi pobol drwy roi £500 os oes rhaid iddyn nhw hunanynysu, tan fis Mawrth 2022.

Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu ei lansio ym mis Tachwedd 2020.

Mae’n helpu i gefnogi pobol na allant weithio gartref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sydd yn hunanynysu.

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, wedi cymeradwyo £4m ychwanegol ar ben yr £8m sydd eisoes wedi cael ei glustnodi yng Nghronfa Galedi Llywodraeth Leol, ar gyfer ymestyn y cynllun.

Hyd yn hyn, mae dros 13,200 o daliadau cymorth wedi cael eu rhoi i bobl ers mis Tachwedd 2020.

“Mae’r taliadau hyn yn hanfodol i unrhyw un y mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi dweud wrthynt fod yn rhaid hunanynysu, ond a allai ddioddef caledi ariannol o ganlyniad i orfod aros gartref a methu gweithio,” meddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.

“Yr awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r cynllun, sy’n cynnwys elfen yn ôl disgresiwn i allu rhoi cymorth i’r rheini sydd â’r angen mwyaf.”

‘Cymorth ychwanegol’

Yn ogystal ag ymestyn y taliadau, bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i bobol, megis bwyd, eitemau hanfodol, cymorth iechyd meddwl, a chyngor ariannol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae mor bwysig bod pobol yn hunanynysu os ydyn nhw’n cael prawf positif am Covid-19 gan fod hyn yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

“Mae’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i bobol sydd wedi cael prawf positif, a’r bobol sydd wedi dod i gysylltiad â nhw, drwy ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth.

“Mae’n bwysig parhau i fuddsoddi er mwyn inni allu helpu’r rheini sydd â’r angen mwyaf.

“Rydym wedi llunio canllawiau i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar gyllid i ddarparu cymorth sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion pobl, gan gynnwys llety amgen dros dro i’r rheini na allan nhw hunanynysu’n ddiogel nac mewn modd effeithiol.”