Mae pryder am sicrwydd dros 1,000 o swyddi yng Nglannau Dyfrdwy pe bai archfarchnad Morrisons yn cael ei brynu gan gonsortiwm ecwiti preifat o’r Unol Daleithiau.

Daw’r rhybuddion gan undeb Unite, sy’n cynrychioli gweithwyr Morrisons, ac Aelodau Seneddol y Blaid Lafur.

Oni bai fod gwarant na ellir mo’i dorri ar swyddi ac amodau, ni fydd Unite yn cydweithredu gyda’r gwerthiant, meddai’r undeb.

Mae’r archfarchnad wedi cytuno ar gytundeb gwerth £6.3 biliwn gyda chonsortiwm o grwpiau buddsoddi sy’n cael ei arwain gan grŵp ecwiti Fortress Investment Group.

Roedd Morrisons wedi gwrthod cytundeb gwerth £5.5 biliwn gan gwmni arall fis diwethaf, ond mae cadeirydd Morrisons, Andrew Higginson, yn dweud bod y fargen hon yn un deg.

Yn ogystal â dwy siop yng Nghei Connah a Saltney yn Sir y Fflint, mae Morrisons yn cyflogi tua 1,100 o weithwyr ar safle cynhyrchu bwyd 24 awr y dydd ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Er bod cyfarwyddwyr Morrisons yn argymell bwrw ymlaen â’r pryniant, mae’r gwerthiant yn ddibynnol ar gymeradwyaeth cyfranddalwyr.

Gweithwyr yn “haeddu cael eu gwobrwyo”

Mae Unite wedi galw am gyfarfod brys gyda Morrisons, gan ddweud eu bod nhw ddim am weld gweithwyr yn cael eu sathru wrth i reolwyr a chyfranddalwyr wthio at sefyllfa fyddai’n golygu eu bod nhw’n cael arian yn sydyn.

“Mae Unite yn galw am drafodaethau brys nawr gyda Morrisons er mwyn gwarchod swyddi ac amodau ein haelodau,” meddai Adrian Jones, swyddog cenedlaethol Unite ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd, sy’n cynrychioli gweithwyr Morrisons mewn warysau a dosbarthwyr.

“Fyddwn ni ddim yn caniatáu gweld gweithwyr yn cael eu sathru wrth i fusnes cryf arall yn y Deyrnas Unedig gael ei gymryd drosodd gyda chyfranddalwyr a rheolwyr yn gwthio tuag at sefyllfa fyddai’n creu arian yn sydyn iddyn nhw.

“Mae Morrisons yn unigryw ymysg archfarchnadoedd y Deyrnas Unedig, yn yr ystyr ei bod hi’n berchen cadwyn gyflenwi ei hun, o’r fferm i’r warws.

“Gweithwyr Morrisons sydd wedi creu’r busnes cryf a phroffidiol hwn – maen nhw’n haeddu cael eu gwobrwyo gan y perchnogion am eu hymrwymiad.

“Bydd Unite yn cyfarfod ar frys gyda’r tîm rheoli er mwyn newid eu haddewid – na fydd swyddi nag amodau gweithwyr yn cael eu tanseilio – yn warant na ellir mo’i dorri.

“Dim ond gyda gwarantau haearnaidd o’r fath y bydd gobaith i Unite ac ein haelodau gydweithredu gyda’r gwerthiant.”

“Stripio asedau”

Dywedodd Mark Tami, yr Aelod Seneddol Llafur dros Alyn a Glannau Dyfrdwy, wrth y Guardian yn ddiweddar y byddai cael ecwiti preifat yn prynu Morrisons yn gwneud drwg i swyddi a ffermio ym Mhrydain.

“Does dim modd camgymryd hyn am unrhyw beth oni bai am ymdrech i dynnu asedau busnes da ar gyfer elw tymor byr,” meddai Mark Tami.

“Mae gan Morrisons gronfa bensiwn gref, cyfraddau uchel o berchnogaeth siopau, ac, y peth mwyaf pwysig i fy ardal i, ei gynhyrchiant ei hun sydd yn ei dro yn cefnogi amaethyddiaeth Prydain.

“Ar adeg pan mae Prydain angen buddsoddiad a swyddi’n fwy nag erioed, mae’r fargen hon yn edrych fel ei bod hi’n cynnig dyfodol llwm yn unig i fusnes da.”