Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050.
Hon yw’r strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Rhaglen Waith, yr ail ers lansio Cymraeg 2050 yn 2017, yn nodi’r polisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd targedau 2050.
Yn ogystal â chyrraedd miliwn o siaradwyr, mae nod hefyd i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Un o’r cerrig milltir interim yw sicrhau bod 30% o blant Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2031.
Mae disgwyl i ganlyniadau Cyfrifiad 2021, y data swyddogol a ddefnyddir i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg, gael eu cyhoeddi erbyn mis Mawrth 2023.
Ymhlith y camau gweithredu a nodir yn y Rhaglen Waith, mae:
- Cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Cyflwyno cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
- Gwella cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
- Datblygu rhaglen i gefnogi defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar bontio rhwng addysg, y gymuned, y teulu a’r gweithle
- Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a defnyddio ysgogiadau economaidd i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith
- Adnewyddu’r ffocws ar fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
“Strategaeth hirdymor”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae ein gweledigaeth ar gyfer ein hiaith yn un eangfrydig a chynhwysol ac rwyf am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom.
“Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth hirdymor sy’n nodi cynllun a gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â’r gallu a’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
“Drwy gyhoeddi’r ddogfen hon yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth hon, rydym yn cynnal y momentwm sydd wedi tyfu ers 2017 ac yn rhoi syniad clir i’n partneriaid o’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.
‘Creu cyfleoedd’
“Rhaid inni gynllunio’n ofalus ac yn bendant i gynyddu nifer y plant a’r oedolion sy’n dysgu Cymraeg.
“Rhaid inni greu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt a rhaid inni sicrhau bod yr amodau cywir yn bodoli i bobol ddefnyddio’r iaith gyda’i gilydd, boed hynny mewn cymunedau daearyddol neu rai rhithiol, mewn gweithleoedd neu mewn mannau cymdeithasol.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ledled Cymru i roi cyfle i gynifer o bobol â phosibl fwynhau dysgu a defnyddio’r Gymraeg.”
Methu targed, ond ffigyrau “calonogol”
Methodd Llywodraeth Cymru gyrraedd ei darged ar gyfer nifer y plant saith oed sy’n dysgu drwy’r Gymraeg, ond mae’n mynnu fod yr ystadegau ar gyfer plant meithrin a derbyn yn “galonogol”.
Codi o 22% i 22.8% wnaeth cyfran y plant saith oed sy’n dysgu drwy’r Gymraeg, er mai 24% oedd y targed.
Mae Llywodraeth Cymru nawr yn gosod targed o gynyddu cyfran y plant blwyddyn un sy’n dysgu drwy’r Gymraeg o 23% i 26% dros y pum mlynedd nesaf.
Yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bydd cynllun Cymraeg 2050 yn “sicrhau ein bod ni yn symud i’r cyfeiriad iawn.”
Wrth siarad â rhaglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru dywedodd: “Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y nod yr oedden ni wedi gobeithio, felly ynghyd â chynlluniau 10 mlynedd strategol sydd gan awdurdodau lleol byddwn ni yn cydweithio gyda’r Comisiynydd, gyda’r Coleg Cenedlaethol ac ati, i sicrhau bod gennym ni gynllun 10 mlynedd hefyd i allu recriwtio athrawon.
“Un o’r cerrig milltir sydd yn y rhaglen hon, un o’r cerrig milltir yn Cymraeg 2050, yw bod 30% o blant blwyddyn un er enghraifft mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
“Felly yn y rhaglen waith hon i ni yn gosod carreg filltir yn y cyfamser o 26% erbyn diwedd y tymor fel bod gyda ni gyfle i fesur cynnydd bob tymor, fel bod ni yn gallu sicrhau ein bod ni yn symud i’r cyfeiriad iawn.”