Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad i gau Ysgol Abersoch yn dilyn “trafodaethau manwl” ynghylch “sefyllfa fregus” yr ysgol.
Daw’r sylwadau wedi i Gynghorydd Abersoch, Dewi Wyn Roberts, ddweud wrth golwg360 fod y penderfyniad yn “fradychiad” o’r “iaith a’r diwylliant”, ac yn mynd yn groes i ewyllys llywodraethwyr, athrawon, y Brif Athrawes, a’r disgyblion.
Er bod lle i 32 o ddisgyblion yn yr ysgol, ar hyn o bryd wyth sy’n mynychu’r ysgol, sy’n golygu fod 76% o’r llefydd yn wag.
Bydd llefydd i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach o fis Ionawr 2022 ymlaen, ac mae Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif y bydd y gost yn disgyn o £17,404 y pen i £4,683.
Mae’r Cyngor hefyd yn dadlau y bydd y plant yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau o faint mwy addas.
“Trafodaethau manwl”
“Wrth gyfarfod ar 15 Mehefin, fe wnaeth Cabinet Cyngor Gwynedd gefnogi’r argymhelliad i gyflwyno hysbysiad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a chynnig lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o Ionawr 2022,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Nation.Cymru.
“Daeth hyn wedi trafodaethau manwl ynghylch sefyllfa fregus yr ysgol yn sgil nifer fechan o ddisgyblion a thrafodaethau ar amryw o opsiynau ynglŷn â sut i ymateb i’r sefyllfa gyda chorff llywodraethu’r ysgol, staff a rhieni, gydag ymgynghoriad statudol ar y cynnig i ddilyn.
“Mae gan Ysgol Abersoch gapasiti o 32 disgybl, ond gyda dim ond 8 o blant sy’n mynychu’n llawn amser a dau ddisgybl meithrin, mae 76% o’r ysgol yn wag.
“Dydi’r rhagamcanion ddim yn awgrymu y bydd twf sylweddol y niferoedd y disgyblion yn Ysgol Abersoch dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
“Mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau ein bod ni’n cynnig yr addysg a phrofiadau gorau posib ynghyd â’r amgylchedd ddysgu gorau posib i’n plant.
“Dyna pam y gwnaethon ni gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig, gan roi ystyriaeth lawn i’r sylwadau a gwnaethon ni eu derbyn yn ystod y broses.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb wnaeth gyfrannu i’r ymgynghoriad statudol, gan gynnwys disgyblion, staff, a llywodraethwyr Ysgol Abersoch.
Ysgol Sarn Bach
“Fel rhan o’r cynnig, byddai disgyblion yn cael cynnig y cyfle i fynychu Ysgol Sarn Bach sydd gerllaw o Ionawr 2022 ymlaen.
“Yn naturiol, mae yna awydd yn y pentref i weld yr ysgol yn parhau, a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod yna gysylltiad cryf rhwng Ysgol Sarn Bach, lle mae nifer o’r disgyblion yn mynychu o Gyfnod Allweddol 2, a chymuned Abersoch.
“Yn dilyn penderfyniad diweddar y Cabinet, mae cyfnod gwrthwynebu’r cynnig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
“Bydd y cyfnod gwrthwynebu yn rhedeg rhwng 25 Mehefin a 23 Gorffennaf gan roi cyfle i unrhyw un wrthwynebu’r cynnig yn ffurfiol.”