Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol Abersoch yn “fradychiad o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”, meddai’r cynghorydd lleol.

Yn ôl Dewi Wyn Roberts, sy’n aelod annibynnol dros Abersoch ar Gyngor Gwynedd, mae cau’r ysgol yn golygu fod plant yn colli’r cysylltiad â’u cymuned.

Brynhawn heddiw (12 Gorffennaf), roedd criw o rieni a chefnogwyr yn hel at ei gilydd ar draeth Abersoch er mwyn ymgyrchu’n erbyn y penderfyniad i gau’r ysgol.

Gyda chapasiti o 32, mae wyth o blant yn mynychu’r ysgol yn llawn amser a dau ddisgybl meithrin ar hyn o bryd – sy’n golygu fod 76% o lefydd gweigion yn yr ysgol.

Nid yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol yn niferoedd disgyblion Ysgol Abersoch dros y blynyddoedd nesaf, a’r niferoedd isel o ddisgyblion sy’n gyfrifol am benderfyniad y Cyngor i’w chau.

Mae’r penderfyniad i’w chau’n mynd yn groes i ewyllys llywodraeth yr ysgol, yr athrawon, y Brif Athrawes, a’r plant eu hunain, ac nid nawr yw’r amser i’w chau hi, meddai Dewi Wyn Roberts.

Gyda Chyngor Gwynedd yn bwriadu cynyddu’r stoc o dai fforddiadwy mewn ardaloedd fel Abersoch, lle mae prisiau tai tu hwnt i gyrraedd pobol leol, mae Dewi Wyn Roberts yn dweud y bydd angen adnodd addysg yn y pentref os ydyn nhw’n mynd ymlaen â hynny.

“Ddim er gorau i’r plant”

“Dw i’n siomedig iawn fod [Cyngor Gwynedd] wedi dod i’r penderfyniad i gau’r ysgol am ambell reswm â dweud y gwir,” meddai Dewi Wyn Roberts wrth golwg360.

“I ddechrau, mae’n tynnu’r cynnig o roi addysg oddi fewn i’r pentref i’r plant. Mae yna dipyn o ddweud wedi bod ynglŷn â bod hyn yn cael ei wneud er y gorau i’r plant.

“Dydw i ddim yn credu ei fod o er gorau i’r plant. Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi gallu rhoi tystiolaeth ymlaen i [ddangos] hynna.

“Mae yna sôn eu bod nhw wedi gwneud o oherwydd bod [nifer yn y] dosbarth yn fach, a bod cymysgedd o oedran o fewn y dosbarth yna.

“Ond y gwir ydi, be maen nhw’n gynnig yn lle hynny ydi rhywbeth tebyg. Mae cymysgedd oedran yn Ysgol Sarn Bach hefyd,” meddai gan gyfeirio at yr ysgol fyddai’n derbyn plant Abersoch.

“Mae o’n adnodd llwyr bwysig, rydyn ni’n dal i fod mewn pandemig a dydyn ni ddim yn gwybod sut mae’r dyfodol yn mynd i fod a be sydd ar y gorwel… dw i’n meddwl bod o’n adeg wirion i wneud penderfyniad fel hyn, a cholli adnodd addysg oddi fewn i’r ardal.”

“Colli perthynas â’u cynefin”

Safiad yn erbyn cau Ysgol Abersoch

“Y peth nesaf wedyn, ac mae o wedi cael ei gydnabod mewn adroddiadau, ydi bod y plant o bosib, adeg maen nhw’n cau ysgolion, yn colli perthynas â’u cynefin.

“Er bod yr ysgol yn Sarn Bach yn weddol agos, yn un peth dydi’r llwybrau ar y ffordd fyny i’r ysgol ddim digon da,” meddai

“Wedyn, o ran eu dadl nhw o ran yr iaith Gymraeg a’r diwylliant yn y pentref. Mae’n frwydr ddyddiol i gadw’r iaith yn fyw oddi fewn i Abersoch.

“Mae tynnu hwn oddi yna’n mynd i gael effaith ddifrifol, mae pobol yn gweld y plant, maen nhw’n mynd i ddigwyddiadau oddi fewn i’r pentref, mynd i ddigwyddiadau ar y traeth, mae pobol Saesneg sy’n dod yma ac ymwelwyr Saesneg yn gweld bod yr iaith yn fyw ac yn cael ei defnyddio, bod yna addysg ac mae o’n gwerthu’n diwylliant ni i ymwelwyr.

“Yn hanesyddol, mae’r ysgol yn galon i’r pentref. Dw i’n dallt mai ysgol fach ydi hi, a dw i’n dallt fod yna gostau ynghlwm [â hi].”

“Diwedd y gân yw’r geiniog”

Mae’r frwydr i gadw Ysgol Abersoch yn un sy’n mynd ymlaen ers degawdau, gyda chyn-gynghorwyr wedi cwffio’r un achos, meddai Dewi Wyn Roberts.

“Mae yna gynllun uchelgeisiol iawn wedi dod gan Adran Tai ac Eiddo [Cyngor Gwynedd], ac un o’r pethau ydi adnabod llefydd fel Abersoch sydd efo prisiau tai uchel ofnadwy, allan o gyrraedd pobol leol.

“Y cynllun ydi adeiladu neu brynu tai, neu beth bynnag, iddyn nhw fod yn dai fforddiadwy i bobol leol.

“Os ydi hynny’n digwydd, yn amlwg mae isio adnodd addysg hefyd yma. Wedyn mae o i weld, i fi, fel bod nhw’n dweud un peth ar un lle, a gwneud rhywbeth hollol groes ar y llaw arall.

“Ti’n sôn am safon addysg hefyd, does yna ddim dwywaith bod nhw ddim am roi mwy o athrawon, ti’n sôn am wneud y dosbarth yn fwy. Sut fedrith hynny fod at les y plant… dydi’r ddadl ddim yn dal dŵr.

“Os dydi hwn ddim yn fater o arbed pres, be ydi’r broblem? Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n gwneud hyn er lles y plant, ac fel dw i wedi egluro dydi o ddim i weld i fi bod yna ddim lles yn mynd i fod i’r plant… yr unig beth arall allith o fod ydi eu bod nhw’n gwneud arbedion i’r adran addysg.

“Diwedd y gân yn fan hyn ydi’r geiniog, dw i’n meddwl.

“Mae hynna ar gost y diwylliant Cymraeg, yr iaith Gymraeg, addysg y plant, dewis uniongyrchol y rhieni ynghylch lle maen nhw’n cael yr addysg… maen nhw’n dwyn hynny i ffwrdd.”

“Bradychiad”

Mae Dewi Wyn Roberts yn cydnabod fod yna broblem yn Abersoch, ond mae’n dweud fod y patrwm o yrru plant yn eu blaenau o Ysgol Abersoch i Ysgol Sarn Bach, ac yna i Ysgol Uwchradd Botwnnog yn llwyddiannus o ran y bobol ifanc mae’r ardal yn eu cynhyrchu.

Un o’r opsiynau eraill a gafodd eu hystyried oedd cadw’r plant yn Ysgol Abersoch am flwyddyn ychwanegol cyn eu gyrru nhw i Ysgol Sarn Bach, ond cafodd hynny ei wrthod.

“Yn amlwg maen nhw wedi gwrthod gwneud hynna, a hynna’n groes i ewyllys y rhieni, yr athrawon, a’r plant eu hunain,” eglurodd Dewi Wyn Roberts.

“Roedden nhw’n dweud y bysa hynny’n cael effaith ar yr ysgol arall, ond dydi hynny ddim yn wir – fysa nhw wedi symud yno flwyddyn yn ddiweddarach.

“Os ydyn nhw o ddifri am warchod yr iaith, gan adeiladu tai a rhoi cartrefi i bobol sydd ar hyn o bryd yn gorfod gadael yr ardal… wel be maen nhw’n mynd i orfod ei wneud ryw ben yw codi estyniad yn Sarn Bach.

“Mae’n siŵr fod y gost o godi’r estyniad hwnnw’n mynd i fod yn llawer mwy na chadw’r ysgol sydd ganddyn nhw’n barod.

“Be sydd rhaid i bobol gofio yw bod y penderfyniad yma yn groes i ewyllys y llywodraethwyr, yr athrawon, y Brif Athrawes, y plant eu hunain… maen nhw wedi cael adborth o ryw fath yn yr ymgynghoriad.

“Dydi gwneud ymgynghoriad rhithiol ddim yn ymgynghoriad llawn, mae o’n amhosib. Fysa nhw wedi gallu disgwyl blwyddyn i bethau setlo lawr a’r salwch yma basio, a’i wneud o’n hollol deg fel gyda phob ysgol arall.”

Yn ôl Dewi Wyn Roberts, byddai hynny’n gyfle i gael cyfarfodydd cyhoeddus fel bod y gymuned yn gallu dod ynghyd i ddangos cryfder y teimladau.

“Mae yna fradychiad yma, o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.”

Rhieni am wneud safiad yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Abersoch

“Fydd yna ddim byd llawer ar ôl wedyn, a thrwy’r ysgol rydyn ni’n gallu ffrydio allan y Gymraeg”