Bydd dros dri chwarter oedolion Cymru wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19 erbyn yr wythnos nesaf, os yw’r ydi’r rhaglen frechu’n parhau ar yr un cyflymder.
Mae 9 allan o bob 10 oedolyn yng Nghymru wedi cael dau ddos o’r brechlyn erbyn hyn, a 7 allan o bob 10 wedi cael y ddau ddos.
Er hynny, mae’r ganran yn llai ar gyfer pobol rhwng 18 a 39 oed, meddai Dr Gillian Richardson, Cyd-Gadeirydd Bwrdd Rhaglen Frechu Covid-19 Cymru.
75% o’r grŵp oedran 18 a 39 sydd wedi cael eu dos cyntaf, meddai yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (12 Gorffennaf), gan alw ar y chwarter arall i gymryd eu brechlyn.
Bydd Mark Drakeford yn gwneud cyhoeddiad ynghylch unrhyw newid mewn cyfyngiadau ddydd Mercher (14 Gorffennaf), ac mae disgwyl iddo gyhoeddi manylion ynghylch a fydd mygydau wyneb yn orfodol mewn siopau ac yn y sector lletygarwch, ynghyd â manylion am fesurau eraill.
Ar hyn o bryd, mae Covid-19 yn lledaenu’n helaeth dros Gymru, gyda 136 achos i bob 100,000 o bobol, meddai Dr Frank Atherton, Prif Swyddogol Meddygol Cymru.
Mae’r cyfraddau ar eu huchaf yn y gogledd, meddai Dr Frank Atherton, gyda 205 achos i bob 100,000 person.
“Gwanhau’r cysylltiad”
Yn ystod y ddwy don flaenorol, dechreuodd yr achosion ymysg pobol ifanc cyn lledaenu i’r boblogaeth hŷn gan arwain at salwch difrifol.
Ond mae’r patrwm i’w weld yn wahanol yn ystod y drydedd don, gan fod lot llai o achsoion ymysg pobol dros 60 oed o gymharu â phobol dan 25 oed.
Mae hyn “newyddion da iawn” sy’n dangos fod y brechlynnau’n gweithio, meddai Dr Frank Atherton.
“Gallwn ni ddweud yn hyderus bod brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol ac ysbytai a marwolaethau,” meddai Dr Gillian Richardson.
“Ond dydyn nhw ddim wedi torri’r cyswllt.”
Pwysleisiodd Dr Gillian Richardson fod y brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion Covid a salwch difrifol a marwolaethau, ond nad ydyn nhw wedi torri’r cysylltiad.
“Gallwn ni ddisgwyl i dderbyniadau i’r ysbyty godi, yn enwedig ymhlith pobl sydd heb gael eu brechu neu’r rhai sydd heb gwblhau’r cwrs,” meddai Dr Gillian Richardson.
“Ers dechrau mis Mai, mae nifer y bobol sydd â Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru wedi bod ar y lefel isaf ers i’r dechrau’r pandemig.
“Bu cynnydd bach yn ystod y dyddiau diwethaf, ond mae’r lefelau dal i fod yn isel.”
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai pump o bobol oedd mewn adrannau gofal dwys ysbytai Cymru ddydd Gwener (9 Gorffennaf).
Torri’r cysylltiad yn llwyr
Wrth ateb cwestiynau, dywedodd Dr Frank Atherton nad yw’n gwybod a fyddwn ni byth yn cyrraedd y pwynt lle mae’r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol fyth wedi’i dorri’n llwyr.
“Dw i ddim yn gwybod a fyddwn ni byth yn cyrraedd pwynt lle mae e wedi torri’n llwyr. Dw i’n disgwyl efo’r don yma, rydyn ni dal i weld rhai pobol sy’n cael eu niweidio – rhai mewn pobol iau, rhai mewn pobol hŷn.
“Rhaid i ni gofio fod y brechlyn yn effeithiol iawn, ond dydyn nhw ddim 100% effeithiol – dydi’r un brechlyn.
“Bydd pobol dal yn mynd yn sâl i ryw raddau tra bod y feirws yn lledaenu.
“Rydyn ni angen aros a gweld beth ddaw yn y dyfodol. Dw i’n meddwl yn aml am gymharu’r pandemig gyda’r ffliw tymhorol, bob blwyddyn rydyn ni’n cael y ffliw, mae’n dod â niweidio pobol – ac mae hynny’n anffodus.
“Dw i’n meddwl y gwawn ni, yn y pendraw, symud at bwynt lle mae coronafeirws ychydig fel y ffliw tymhorol – bod e’n niweidiol bob blwyddyn, ac rydyn ni angen ei reoli fo a defnyddio’r mesurau hynny i’n hamddiffyn ni,” meddai gan ddweud mai rhywbeth ar gyfer y dyfodol fydd hynny, a bod gaeaf caled posib o’n blaenau.
Wrth gynghori Llywodraeth Cymru, dywedodd Dr Frank Atherton ei fod e’n ystyried tri pheth sef y niwed a’r derbyniadau i ysbytai yn sgil Covid, materion megis Covid Hir, ac amrywiolion newydd posib fyddai’n gallu addasu i wrthsefyll y brechlyn.
Ychwanegodd fod posib i lefelau uchel o ledaeniad mewn cymuned achosi i’r feirws addasu, gan arwain at amrywiolion newydd.