Gogledd Cymru yw’r lleoliad mwyaf poblogaidd gan Brydeinwyr sy’n mynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig, yn ôl arolwg gan gwmni bythynnod gwyliau.

Mae De Cymru hefyd ymhlith y 10 lleoliad mwyaf poblogaidd.

Dyna ganfyddiadau arolwg blynyddol y Sykes Holiday Cottages 2021 Staycation Index.

Bydd 62% o Brydeinwyr yn mynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig eleni,o gymharu â 50% yn 2019.

Mae archebion bythynnod gwyliau 40% yn uwch yr haf hwn o gymharu â’r un cyfnod yn 2019, yn ôl data o 17,000 o fythynnod Sykes.

Mae ymwelwyr wedi bod yn chwilio am eiddo gyda gerddi neu le y tu allan, tra bod poblogrwydd llety glampio llai traddodiadol hefyd wedi codi, gan godi 400% o gymharu â 2019.

Mae’r pandemig yn debygol o gael effaith barhaol ar ddewisiadau gwyliau Prydeinwyr, yn ôl Graham Donoghue, prif weithredwr Sykes Holiday Cottages.

“Rydym yn disgwyl i’r newid tuag at wyliau gartref barhau ac rydym yn gobeithio parhau i weld lleoliadau y tu allan i’r rhai traddodiadol boblogaidd yn tyfu mewn poblogrwydd yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.

Daw’r arolwg wrth I bryderon cynyddol ddod i’r amlwg fwyfwy am effeithiau gor-dwristiaeth ar gefn gwlad Cymru.

Echddoe, dywedodd Liz Saville Roberts wrth golwg360 fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru “rŵan hyn”.

Daeth ei sylwadau yn dilyn rali #NidYwCymruArWerth yn Nhryweryn (dydd Sadwrn, Gorffennaf 10).

Cafodd “bron i hanner” y tai ar y farchnad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, etholaeth Liz Saville Roberts, eu gwerthu fel ail gartrefi’r llynedd, yn ôl ystadegau newydd.

Y 10 rhanbarth mwyaf poblogaidd ar gyfer gwyliau’r haf yn 2021 yn ôl arolwg Sykes

1 Gogledd Cymru

2 Cumbria

3 Cernyw

4 Dyfnaint

5 Gogledd Swydd Efrog

6 Dales Swydd Efrog

7 Peak Distric

8 De Cymru

9 Dwyrain Anglia

10 Dorset