Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon wedi dweud eu bod nhw wedi gweld “cynnydd sylweddol” yn nifer y galwadau brys yn gysylltiedig â choelcerthi’r unoliaethwyr eleni.
Cafodd dros 230 o goelcerthi eu cynnau fel rhan o ddathliadau traddodiadol yr ‘Unfed Noson ar Ddeg’ rhwng nos Wener a neithiwr (9 a 11 Gorffennaf).
Mae’r coelcerthi’n arwain at y diwrnod pwysicaf yn nhymor gorymdeithio urddau teyrngar y Protestaniaid – sef heddiw, 12 Gorffennaf.
Ni fu’r un ymosodiad ar staff y gwasanaeth tân dros y penwythnos, er bod y penwythnos wedi bod yn un “eithriadol o brysur”.
Er bod y mwyafrif o danau’n digwydd heb ddim helyntion, mae rhai yn dal i achosi tensiwn mewn cymunedau, ac weithiau mae awdurdodau’r gorfod ymyrryd ar sail iechyd a diogelwch.
Y goelcerth fwyaf dadleuol eleni oedd un yn Tiger’s Bay yng ngogledd Belfast, sydd gerllaw ardal weriniaethol New Lodge. Roedd dwy o weinidogion Stormont, Nicola Mallon o’r SDLP a Deirdre Hargey o Sinn Fein, wedi ceisio’n aflwyddiannus i gael gorchymyn llys i symud y tân.
Fe wnaeth y gwleidyddion unoliaethol wrthod hyn, gan ddweud fod y goethcerth yn fynegiant dilys o’u diwylliant, gan gyhuddo arweinwyr gwleidyddol cenedlaetholgar o godi tensiynau.
Gorymdeithiau
Bydd miloedd o aelodau o’r Urdd Oren yn gorymdeithio ar strydoedd Gogledd Iwerddon heddiw, er y bydd y gorymdeithiau’n llai nag arfer oherwydd cyfyngiadau Covid.
Mae’r deunaw brif orymdaith arferol wedi cael eu cyfnewid am dros gant o orymdeithiau lleol llai, gyda’r Urdd yn dweud mai dyma’r ffordd orau i sicrhau eu bod nhw’n cael eu cynnal.
Mae’r gorymdeithiau’n nodi buddugoliaeth y Brenin Protestannaidd William of Orange dros y Brenin Catholig Iago II ym mrwydr Boyne, i’r gogledd o Ddulyn yn 1690. Hon oedd y fuddugoliaeth a wnaeth sicrhau llinach olyniaeth Brotestannaidd coron Lloegr a’r Alban.
“Dw i’n gobeithio y bydd e’n benwythnos heddychlon, dw i’n gobeithio y bydd e’n benwythnos tawel. Mae gennym ni, sy’n arwain gwleidyddiaeth, ddyletswydd i drio sicrhau mai hynny fydd yr achos,” meddai Michelle O’Neill, Prif Weinidog Cysgodol Gogledd Iwerddon.
“Byddwn ni’n galw ar bawb, mwynhewch eich dathliadau, gwnewch yr hyn rydych chi’n ei wneud er mwyn mwynhau eich diwylliant ond does dim lle i ymosod ar dai pobol.”