Mae Lloegr yn “agos eithriadol” at godi gweddill y cyfyngiadau covid, meddai Boris Johnson, wrth iddo baratoi ar gyfer cyhoeddiad terfynol ar beth fydd yn digwydd o’r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cynhadledd i’r wasg heddiw (12 Gorffennaf), gan ddweud, mae’n debyg, fod Lloegr yn symud i Gam 4 a fyddai’n golygu cael gwared ar fesurau megis y gofyniad cyfreithiol i wisgo mygydau.

Er hynny, mae e wedi rhybuddio y bydd nifer yr achosion yn cynyddu wrth i reolau gael eu llacio.

Mae Downing Street wedi dweud y bydd y llacio’n seiliedig ar bedwar prawf – llwyddiant y rhaglen frechu, tystiolaeth fod y brechlyn yn lleihau’r marwolaethau a derbyniadau i ysbytai, fod cyfraddau achosion ddim yn peryglu nifer y derbyniadau i ysbytau, a bod dim amrywiolion newydd sy’n achosi pryder yn amharu ar y cynnydd.

“Rydyn ni’n agos eithriadol at garreg filltir olaf ein hamserlen allan o’r cyfnod clo, ond rhaid i’r cynllun i adfer ein rhyddid ddod gyda rhybudd,” meddai Boris Johnson.

“Tra bod y rhaglen frechu ryfeddol wedi cynnig peth gwarchodaeth i bob oedolyn rhag y feirws, ac mae’r cysylltiad hollbwysig rhwng achosion, derbyniadau i ysbytai, a marwolaethau wedi’i wanhau, dydi’r pandemig byd-eang ddim drosodd eto.

“Bydd nifer yr achosion yn cynyddu wrth ddatgloi, felly wrth i ni gadarnhau ein cynlluniau heddiw, mae ein neges yn glir. Mae gofal yn hollbwysig, ac mae’n rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb fel ein bod ni ddim yn dadwneud y cynnydd, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i warchod ein Gwasanaeth Iechyd.”

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl llacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Bydd gwisgo mygydau’n dal i fod yn orfodol mewn tacsis, trenau a bysiau, yn ogystal â lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried a fydd angen cynnwys lleoliadau eraill hefyd fel siopau.