Mae miloedd o bobol yn Ciwba wedi bod yn ymgyrchu ar bromenâd Malecon yn Havana yn erbyn prinder bwyd a phrisiau uchel.

Dyma un o’r protestiadau mwyaf o fewn cof yn erbyn llywodraeth Ciwba, gyda nifer o bobol ifanc yn cymryd rhan yn y brotest a wnaeth amharu ar draffig y brifddinas nes i’r heddlu ymyrryd pan wnaeth ambell ymgyrchydd ddechrau taflu cerrig.

Gan lafarganu “freedom”, “enough”, ac “unite”, gorymdeithiodd yr ymgyrchwyr drwy’r strydoedd gyda’r heddlu’n eu dilyn.

“Rydyn ni wedi cael llond bol ar giwiau, y prinderau. Dyna pam mod i yma,” meddai un ymgyrchydd wrth The Associated Press. Gwrthododd roi ei enw rhag ofn y byddai’n cael ei arestio’n hwyrach ymlaen.

Mae Ciwba’n mynd trwy eu hargyfwng economaidd waethaf ers degawdau, ac mae cynnydd mewn achosion Covid-19, wrth i’r wlad ddioddef yn sgil y sancsiynau gafodd eu gosod arni gan lywodraeth Trump.

Aeth y protestwyr yn eu blaenau er gwaethaf y ffaith fod rhai wedi cael eu harestio gan yr heddlu, a bod nwy dagrau wedi’i ryddhau.

Er bod rhai wedi ceisio ffilmio’r digwyddiad yn fyw, fe wnaeth awdurdodau Ciwba ddiffodd y rhyngrwyd drwy gydol y prynhawn.

Tua dwyawr a hanner ers dechrau’r orymdaith, fe wnaeth rhai ymgyrchwyr ddechrau taflu cerrig man at yr heddlu, ac mae’n debyg fod o leiaf 20 o bobol wedi cael eu hebrwng i ffwrdd mewn ceir heddlu neu gan unigolion mewn gwisg gyffredin.

Fe wnaeth tua 300 o gefnogwyr y llywodraeth gyrraedd gyda fflag Ciwba, gan weiddi o blaid yr Arlywydd Fidel Castro a chwyldro Ciwba.

Cafodd gwrthdystiadau eraill eu cynnal ar hyn y wlad, gan gynnwys yn nhref fach San Antonio de los Banos, lle bu pobol yn ymgyrchu’n erbyn toriadau trydan.

Wedi’r digwyddiad, ac wedi ymweliad â San Antonio de los Banos, fe wnaeth Arlywydd Ciwba, Miguel Diaz-Canel, gyhuddo’r “maffia Ciwban-Americanaidd” o achosi trwbl.

“Fel bod clystyrau’r pandemig ddim yn bodoli dros y byd, mae’r maffia Ciwban-Americanaidd wedi dechrau ymgyrch gyfan, gan dalu dylanwadwyr a YouTubers yn dda iawn ar y cyfryngau cymdeithasol… ac wedi galw am ymgyrchoedd ar draws y wlad.”