Mae datblygwyr technolegol yn y gogledd yn chwilio am fuddsoddwyr i’w platfform digwyddiadau rhithiol newydd a allai gynnig dewis arall yn lle Zoom.

Mae platfform ‘Haia’ yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer testun a llais Cymraeg.

Nod y system yw bod yn fwy cyfeillgar na’i gystadleuwyr mwyaf, sy’n cynnwys Zoom a Hopin. Gobaith y datblygwyr yw bydd unrhyw un yn gallu defnyddio’r system, gan gynnig dewisiadau i hwyluso’r profiad. Maen nhw’n chwilio am swm o £1.5 miliwn i wella’r system wrth i’r dyddiad lansio agosáu.

‘Arloesedd go iawn’

Mae Tom Burke, un o’r sylfaenwyr, yn esbonio am y prosiect:

“Dyma gyfle i fuddsoddi mewn marchnad sydd â photensial twf anferth o $269.20 biliwn dros y bum mlynedd nesaf.

“Rydan ni’n chwilio am fuddsoddwyr sy’n rhannu ein gweledigaeth ni o dechnoleg gynhwysol, amlieithog sy’n gwella profiadau pobl o ddigwyddiadau ar-lein a gwella’r ffordd rydym yn cyfathrebu’n rhithiol.

“Yn ystod treialu cynnar, mae Haia wedi dangos ei fod ar flaen y gad yn nhermau digwyddiadau amlieithog – ac yn dod ag arloesedd go iawn i’r farchnad yma.

“Mae’n caniatáu defnyddwyr i greu digwyddiadau sy’n cysylltu pobl mewn ffyrdd nad yw bosib ar blatfformau arferol.”

‘Angen gwneud mwy i gynnwys pawb’

Mae cwmni M-SParc, sy’n bartner i’r cynllun, yn “falch iawn” o fod yn rhan o brosiect Haia, meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Pryderi ap Rhisiart.

Bydd y cynllun hefyd yn clymu efo strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru, sy’n amlinellu rôl technoleg wrth gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Rydym yn gwybod bod nifer o blatfformau digwyddiadau ar-lein yn bodoli’n barod, ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi pa mor ddefnyddiol ydyn nhw, ond mae hefyd wedi amlygu’r diffygion,” dywedodd Pryderi.

“Mae angen gwneud mwy i gynnwys pawb, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.

“Dyma’n union mae Haia yn ei wneud – cymryd profiadau’r 18 mis diwethaf o gymdeithasu a rhwydweithio o bell, ac yn ychwanegu elfennau personol i’r profiad.”

‘Potensial anferth yng Nghymru’

Hefyd ynghlwm â’r prosiect mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sydd wedi helpu i ddatblygu gallu amlieithog y platfform.

“Mae potensial anferth yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel platfform i arbrofi gyda chynnyrch amlieithog newydd,” medd Yr Athro Delyth Prys o’r ganolfan.

“Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn hyrwyddo technoleg iaith mewn diwydiant trwy drosglwyddo ein hymchwil diweddaraf mewn technoleg lleferydd a pheiriannau cyfieithu i helpu creu cynnyrch cyffrous newydd fel Haia.”

Bwriad y datblygwyr yw lansio Haia ym mis Medi eleni. Maent eisoes wedi derbyn £470,000 mewn buddsoddiadau, yn cynnwys grant gan gronfeydd Arloesi DU (Innovate UK).

Mae’r prosiect hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau ar gyfer busnesau newydd Cymru yn y categori ‘Rising star‘.