Mae mellt wedi lladd o leiaf 38 o bobl mewn dwy dalaith yn India dros y 24 awr ddiwethaf.
Fe fu farw 11 o bobl wrth gael eu taro gan fellt ger tŵr gwylio Amber Fort yn nhalaith orllewinol Rajasthan yn hwyr neithiwr. Yn ôl yr heddlu roedd rhai ohonyn nhw’n cymryd lluniau ‘selffi’ ohonyn nhw’u hunain ger y tŵr ar y pryd.
Cafodd o leiaf naw o bobl eraill eu lladd yn y dalaith yn stormydd mellt a tharanau’r monsŵn.
Fe fu farw 18 o bobl yn nhalaith Uttar Pradesh hefyd ddoe, y mwyafrif ohonyn nhw’n weision fferm yn gweithio yn y caeau.
Mae adran dywydd India yn rhybuddio am fwy o fellt dros y ddeuddydd nesaf. Mae mellt yn gyffredin yn ystod tymor monsŵn India, rhwng misoedd Mehefin a Medi.
Cafodd mwy na 2,900 o bobl eu lladd gan fellt yn India yn 2019, yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf sydd ar gael.