Mae Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Jane Hutt, wedi cyhoeddi apêl ar i sefydliadau ac unigolion sicrhau eu bod nhw’n helpu i greu Cymru wirioneddol wrth-hiliol.

Daw ei hapêl ychydig ddyddiau cyn i’r ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru gau ddydd Iau, 15 Gorffennaf.

Bydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gyda nodau, camau gweithredu, amserlenni, a chanlyniadau a fydd yn helpu i sicrhau fod camau ystyrlon yn cael eu cymryd.

Er mwyn gwneud hynny, mae angen i holl gymdeithas Cymru ymwneud â’r Cynllun, a helpu i gyflawni marchnad gyflogaeth deg, system addysg a hyfforddiant decach, a chyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau hiliol mewn gofal iechyd, ymhlith materion eraill.

Mae hi’n bwysig i bawb stopio a gofyn i’w hunain pa gamau maen nhw’n eu cymryd er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig, meddai Jane Hutt.

“Dileu hiliaeth, gyda’n gilydd”

“Fel Llywodraeth, credwn o ddifrif nad yw mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau’n unig, mae’n ymwneud â’n gweithredoedd hefyd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol,” meddai Jane Hutt, Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

“Mae’n bwysig i ni i gyd stopio a gofyn i ni’n hunain pa gamau ydyn ni wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig? Mae hwn yn brawf, i bob un ohonom, ddangos sut y byddwn i gyd yn gweithio tuag at ddileu hiliaeth yn ein cymdeithas, gyda’n gilydd.

“Mae ein Cynllun drafft ar gyfer Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol , a ddatblygwyd ar y cyd, yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac mae’n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn cyfrannu ato cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

“Gwyddom mai dim ond dechrau proses hir yw hyn, a bod arnom angen cymorth ein cymunedau i greu’r Gymru wrth-hiliol yr ydym i gyd am fyw ynddi, a ffynnu ynddi. Os cawn hyn yn iawn, byddwn yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a’r cyfraniad a wnânt.

“Pan fydd hynny’n digwydd, rydyn ni i gyd yn ennill.

“Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo canlyniadau cyfartal wedi bod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru erioed ac mae ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gyd-greu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol,” ychwanegodd y Gweinidog.

“Felly ymunwch â ni, cymerwch ran a helpwch ni i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld.”

“Angen eich lleisiau”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, Cyd-Gadeirydd Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, fod rhaid clywed lleisiau, profiadau a gwybodaeth pawb.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gyda ‘nodau’, ‘camau gweithredu’ ‘amserlenni’, a ‘chanlyniadau’ diriaethol a fydd yn ein helpu i symud o’r ‘rhethreg’ ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cyflawni camau ystyrlon,” meddai’r Athro Emmanuel Ogbonna.

“Rydym am i holl gymdeithas Cymru ymwneud â’r Cynllun a helpu i gyflawni, ymhlith pethau eraill, marchnad gyflogaeth deg, system addysg a hyfforddiant decach a chyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau hiliol mewn gofal iechyd.

“Credwn y bydd gweithredu’r cynllun hwn yn llwyddiannus o fudd gwirioneddol i bawb, ledled Cymru.

“Ond mae angen eich lleisiau, eich profiadau a’ch gwybodaeth chi arnom i’n helpu i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.”

“Gwlad decach”

Mae undeb TUC Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru ar y Cynllun, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cyffredinol dyma’r cyfle i lunio’r Gymru rydyn ni am ei gweld.

“Mae’n hanfodol bwysig bod pawb ar draws ein cymdeithas yn ymwneud â’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol,” dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Dyma ein cyfle i lunio’r Gymru yr ydym am ei chael yn y dyfodol: gwlad decach a theg sy’n cyflawni i bawb – ac yn bwysicaf oll i bobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion yn rhy aml.

“Gwyddom i gyd fod arnom angen ymrwymiad ac uchelgais gwirioneddol er mwyn mynd i’r afael â phla hiliaeth.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’i dwyn i gyfrif wrth i ni frwydro dros Gymru wirioneddol wrth-hiliol.”