Mae’r amser mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi’i gymryd wrth ateb gohebiaeth gan aelodau’r Senedd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan lefarydd Iechyd a Gofal Cyhoeddus Plaid Cymru.

Gyrrodd Rhun ap Iorwerth lythyr at y cyn-Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, ym mis Medi 2020, a dim ond nawr, naw mis wedyn, y derbyniodd ateb gan y Gweinidog Iechyd presennol.

Gan gyfeirio at enghreifftiau tebyg, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y pandemig wedi gwneud y broses o ddal y llywodraeth yn atebol “yn bwysicach nag erioed, ond ddwywaith anoddach”.

Wedi derbyn dau ymateb hwyr ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth egluro nad oedd yr ymatebion “o fawr werth” erbyn hyn.

“Ym mis Medi 2020 ysgrifennais at y Gweinidog Iechyd am Iechyd Cyhoeddus Cymru yn torri diogelwch data,” meddai Rhun ap Iorwerth, Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru.

“Mae derbyn ateb naw mis wedyn yn amlwg yn annerbyniol.

“Ac mae hyn ymhell o fod yn un digwyddiad ar ei ben ei hun. Fis Rhagfyr diwethaf, fe wnes i ysgrifennu at y gweinidog ar y pryd ynghylch brechu gweithwyr gofal iechyd. Does fawr o werth i’r ymateb, dw i ond newydd ei dderbyn.

“Mae’r agwedd ‘gwell hwyr na hwyrach’ hon wrth ateb gohebiaeth yn tanseilio’r egwyddor o graffu. Mae dal y llywodraeth a gweinidogion yn atebol yn ystod pandemig yn bwysicach nag erioed, ond ddwywaith anoddach,” ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.

“Rydyn ni wedi cael dau gyfnod clo cenedlaethol, etholiad cyffredinol Cymraeg, a Gweinidog Iechyd newydd yn yr amser y mae hi wedi’i gymryd i ymateb i’r llythyr hwn a dydi hynny, yn syml, ddim yn ddigon da.

“Ni ddylai cael ymateb Gweinidogol gymryd yn hirach na siwrne i Mars.”