Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i chwaraewyr du yn nhîm Lloegr ddioddef casineb hiliol ar-lein wedi iddyn nhw fethu ciciau o’r smotyn neithiwr.

Roedd tudalennau cyfryngau cymdeithasol Marcus Rashford, Jadon Sancho a Bukayo Saka yn llawn sylwadau ffiaidd hiliol yn fuan ar ôl y gêm.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Llundain: “Mae’r cam-drin hwn yn gwbl annerbyniol, a byddwn yn ymchwilio iddo.”

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson ymysg y rhai sydd wedi mynegi ei ddicter at y rhai oedd yn gyfrifol.

“Mae tîm Lloegr yn haeddu cael eu clodfori fel arwyr, nid eu cam-drin  yn hiliol ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai. “Dylai’r rheini sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth hon fod a chywilydd.”

Yr un oedd neges Cymdeithas Bêl-droed Lloegr:

“Does dim croeso i neb sy’n ymddwyn mor ffiaidd fel cefnogwyr i’r tîm,” meddai llefarydd. “Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i gael gwared ar ragfarnau o’r gêm, ac rydym yn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu’n gyflym a deddfu i roi stop ar y math hwn o gamdriniaeth ar-lein.”

Y Saeson yn boddi wrth ymyl y lan

Yr Eidal yn ennill pencampwriaeth Ewrop â chiciau o’r smotyn