Llwyddodd yr Eidal i drechu Lloegr mewn ciciau o’r smotyn ar ddiwedd gêm derfynol Euro 2020 yn Wembley neithiwr.
Ar ôl i’r ddau dîm fod yn gyfartal 1-1 ar ddiwedd y 90 munud a 30 o amser ychwanegol di-sgôr, enillodd yr Eidal y ciciau 3-2.
Roedd golygfeydd o dorcalon ymysg cefnogwyr Lloegr neithiwr ar ôl gêm mor agos.
Ychydig dros ddwyawr ynghynt roedd cyffro’r stadiwm yn fyddarol pan sgoriodd Lloegr yn y ddau funud cyntaf, gan aros ar y blaen am weddill yr hanner cyntaf. Daeth yr Eidal yn gyfartal fodd bynnag yn fuan yn yr ail hanner, a nhw oedd yn ymosod am y rhan fwyaf o weddill y gêm.
Hyd yn oed yn y ciciau o’r smotyn, roedd yn ymddangos y gallai pethau fynd y naill ffordd neu’r llall, gyda Lloegr y tîm cyntaf i fod ar y blaen am ychydig eiliadau. Methiant Lloegr i sgorio gyda’r gic olaf un a arweiniodd at fuddugoliaeth yr Eidal, er bod y fuddugoliaeth honno’n un roedd llawer o Saeson yn ei chydnabod fel un haeddiannol.
Fel mae rhai sylwebwyr wedi’i nodi dros y dyddiau diwethaf, neithiwr oedd y tro cyntaf i Loegr gyrraedd gêm derfynol gornest ryngwladol ers 1966. Mae buddugoliaeth yr Eidal ar y llaw arall yn ychwanegiad pellach at ei llwyddiannau dros y blynyddoedd, gyda phedair cwpan y byd a chwpan Ewrop arall yn ei meddiant.