Mae pencampwyr Ewro 2020 wedi dychwelyd adref yn dilyn eu buddugoliaeth dros Loegr neithiwr (nos Sul).

Wedi iddyn nhw gyrraedd y maes awyr yn Rhufain, roedd llu o gefnogwyr yno i’w croesawu ac i ddathlu’r llwyddiant, gyda baner enfawr yn dweud “Grazie Azzurri” (Diolch i’r Gleision) ar y rhedfa.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Yr Eidal mewn twrnamaint ers iddyn nhw ennill Cwpan y Byd 2006.

Roedd dathliadau ar draws y wlad dros nos, gyda thannau gwyllt yn cael eu tanio a chyrn ceir yn cael eu gwasgu, ar ôl iddyn nhw drechu Lloegr mewn cystadleuaeth ciciau o’r smotyn.

Bydd y tîm yn cael eu hannerch yn swyddogol gan Arlywydd Yr Eidal, Sergio Mattarella, a’r Prif Weinidog, Mario Draghi, yn hwyrach heddiw.

Yn ymuno â nhw bydd y chwaraewr tenis, Matteo Berrettini a orffennodd yn ail i Novak Djokovic ym mhencampwriaeth Wimbledon ddoe.

‘Blwyddyn ddyrys i bawb’

Mae’r wlad wedi cael blwyddyn anodd oherwydd y pandemig, gan orfod dioddef sawl cyfnod clo oherwydd y straen ar ysbytai.

O holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd, Yr Eidal oedd gan y nifer fwyaf o farwolaethau gyda 127,000.

Er gwaethaf hynny, mae Eidalwyr yn falch o gael haul ar fryn eto.

“Mae’n edrych imi fel bod y fuddugoliaeth hon yn dda iawn i’r ysbryd cenedlaethol oherwydd yr holl ddioddefaint o achos Covid,” dywedodd un cefnogwr, a oedd yn gwylio’r gêm yn Rhufain.

“Roedd ddoe yn ffrwydrad o lawenydd. Dw i wrth fy modd.”

“Mae wedi bod yn flwyddyn ddyrys i bawb ond yn enwedig i ni fel un o’r gwledydd cyntaf i gael eu taro,” ychwanegodd cefnogwr arall.

“Mae hyn yn arwydd o ddechrau newydd.”

Y Saeson yn boddi wrth ymyl y lan

Yr Eidal yn ennill pencampwriaeth Ewrop â chiciau o’r smotyn

Chwaraewyr yn dioddef casineb hiliol ar ôl methu ciciau cosb i Loegr

Heddlu’n ymchwilio i gamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol