Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr y Llewod ar gyfer eu gêm yn erbyn De Affrica A ddydd Mercher (14 Gorffennaf).

Daw hyn yn dilyn anaf i’r Albanwr Finn Russell, sy’n debygol o’i gadw allan am weddill y daith.

Ymhlith y Cymry eraill sydd yn y tîm, mae Louis Rees-Zammit, Josh Adams, Talupe Faletau, Josh Navidi, Wyn Jones a Ken Owens (Y Sheriff).

Bydd modd gwylio’r gêm am 7 o’r gloch ar Sky Sports.

Mae’r prawf cyntaf yn erbyn De Affrica, pencampwyr y byd, i fod i gael ei gynnal ar 24 Gorffennaf, gyda’r ail brawf ar 31 Gorffennaf, a’r ornest olaf ar 7 Awst.

Mae’r Llewod wedi teithio i Cape Town ar gyfer gêm dydd Mercher (14 Gorffennaf) ar ôl chwarae eu tair gêm gyntaf yn nhir uchel Johannesburg a Preoria.

“Gêm dydd Mercher yn erbyn De Affrica A fydd ein her anoddaf ers i ni gyrraedd yma ac rydym yn edrych ymlaen ato,” meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland.

“Rwy’n credu ein bod wedi elwa o chwarae ar dir uchel yn y tair gêm gyntaf.

“Er bod y bechgyn wedi teimlo’r peth yn eu hysgyfaint, byddan nhw’n well byth amdano nawr ein bod ni ar lefel y môr.”

Mae Warren Gatland yn dweud bod y gystadleuaeth am safleoedd pan fydd y gemau prawf yn erbyn De Affrica yn dechrau yn poethi.

“Wrth i ni symud tuag at diwedd y daith, mae’n braf gweld cynifer o chwaraewyr yn perfformio gystal,” meddai.

“Fel hyfforddwyr rydyn ni eisiau i’r chwaraewyr wneud ein dewis ni ar gyfer y Profion mor galed â phosib a dyna rydyn ni’n ei weld.”

Tîm y Llewod

Anthony Watson; Louis Rees-Zammit, Chris Harris, Bundee Aki, Josh Adams; Dan Biggar, Conor Murray (Capten); Wyn Jones, Ken Owens, Kyle Sinckler; Maro Itoje, Iain Henderson; Josh Navidi, Tom Curry, Taulupe Faletau.

Eilyddion

Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Zander Fagerson, Adam Beard, Tadhg Beirne, Sam Simmonds, Gareth Davies, Elliot Daly.