Mae gan Alun Wyn Jones siawns o ddychwelyd i garfan y Llewod ar ôl iddo gael gwelliant cyflymach na’r disgwyl yn dilyn anaf i’w ysgwydd.

Cafodd Jones yr anaf chwe munud i mewn i gêm agoriadol y Llewod yn erbyn Japan ar Fehefin 26, ac roedd disgwyl y byddai’n methu’r holl gemau prawf.

Mae’r clo bellach yn ôl yn ymarfer gyda charfan Cymru, gyda Warren Gatland i wneud penderfyniad ynglŷn â’i adalw i’r Llewod ddydd Mawrth.

‘Cynnydd aruthrol’

“Rhai wythnosau’n ôl, doedden ni ddim yn meddwl ei fod yn opsiwn, ond mae wedi bod yn ymarfer gyda Chymru’r wythnos hon,” dywedodd Gatland.

“Rwy’n meddwl bod sesiwn ddwbl yfory (dydd Mawrth 13 Gorffennaf) efo nhw, a bydd rhaid inni weld beth yw canlyniad hynny [ar Alun].

“Mae wedi gwneud cynnydd aruthrol o’r anaf honno oedd ddim mor ddrwg â’r disgwyl.

“Mae hynny’n bositif iawn a byddai’n hwb i’r garfan ei gael rhywun o’i brofiad a’i safon e gyda ni.”

‘Gwyrth’

Fe wnaeth Gatland grybwyll y “wyrth” o weld Jones yn dychwelyd ar ôl cyrraedd De Affrica bythefnos yn ôl.

Mae’r posibilrwydd hynny bellach yn edrych yn fwy tebygol, wrth iddyn nhw ddisgwyl adroddiad meddygol dros y 24 awr nesaf.

Wedi iddo adael tîm y Llewod, cafodd mewnwr Iwerddon, Conor Murray, ei ddewis fel capten yn ei le, ac mae’n aneglur os byddai’n dychwelyd i’r rôl hwnnw.

Os yw’n ailymuno â’r garfan, mae siawns y byddai’n chwarae yn erbyn y Stormers yn Cape Town ddydd Sadwrn.

Bydd y gêm honno’n digwydd wythnos yn union cyn y gêm brawf gyntaf yn erbyn De Affrica.

Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr y Llewod – a’r Sheriff yn dechrau

Bydd modd gwylio’r gêm am 7 o’r gloch ddydd Mercher ar Sky Sports