Roedd hi’n ddiwrnod rhwystredig unwaith eto i dîm criced Morgannwg, wrth iddyn nhw orffen ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton ar 52 am ddwy wrth i’r glaw orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae yn gynnar am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Mae’r ornest bellach yn debygol o orffen yn gyfartal.
Cipiodd y troellwr Andrew Salter bedair wiced am 18 wrth i fatiad yr ymwelwyr orffen ar 215 am naw, gyda Gareth Berg yn methu batio ar ôl cael anaf wrth gynhesu cyn dechrau’r ail ddiwrnod.
Dim ond 44.5 o belawdau gafodd eu bowlio ar y diwrnod cyntaf, a dechreuodd yr ail ddiwrnod hanner awr yn hwyr, gyda’r ymwelwyr yn 128 am bedair.
Cyrhaeddodd Saif Zaib ei hanner canred oddi ar 92 o belenni, ond collodd e a Will Thurston eu wicedi o fewn dim o dro.
Cafodd Thurston ei ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Michael Hogan, cyn i Zaib yrru at Marnus Labuschagne yn y cyfar oddi ar fowlio Salter am 50.
Cafodd Simon Kerrigan ei ddal gan Timm van der Gugten ar ochr y goes heb sgorio ar ôl wynebu 22 o belenni, a tharodd Salter goes Ben Sanderson o flaen y wiced i adael yr ymwelwyr yn 197 am wyth erbyn amser cinio.
Cwympodd y wiced olaf pan gafodd Jack White ei ddal gan van der Gugten oddi ar fowlio Salter.
Batiad cyntaf Morgannwg
Gallai Joe Cooke, agorwr Morgannwg, fod wedi cael ei redeg allan cyn cael ei ddal yn y slip gan Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio Ben Sanderson am 16.
Belawd yn ddiweddarach, cipiodd capten Swydd Northampton ail ddaliad oddi ar fowlio Luke Procter i waredu David Lloyd.
Roedd Morgannwg yn 48 am ddwy pan ddaeth y glaw am y tro cyntaf, a phenderfynodd y dyfarnwyr gymryd te yn gynnar.
Dim ond pedwar rhediad arall ychwanegodd Marnus Labuschagne a Billy Root at y cyfanswm cyn i’r glaw ddod am yr ail dro, a daeth y chwarae i ben am y tro olaf am 5.05yh.
Bydd Labuschagne yn dechrau’r trydydd diwrnod ar 17 heb fod allan a Root chwech heb fod allan, ond bydd angen ymdrech arwrol ar Forgannwg os ydyn nhw am gael canlyniad positif yng ngêm Bencampwriaeth ola’r Awstraliad Labuschagne i’r sir y tymor hwn.