Swydd Northampton yw’r ymwelwyr â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd wrth i Forgannwg geisio cryfhau eu safle yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 11).
Mae’r Cymry eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr ail adran ar gyfer rhan ola’r gystadleuaeth, ac maen nhw’n sicr o orffen yn drydydd neu’n bedwerydd yn y tabl.
Ac maen nhw wedi cael hwb pellach wrth i’r Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser ddychwelyd ar ôl hunanynysu am gyfnod yn sgil olrhain cysylltiadau ar ôl i Nick Selman brofi’n bositif am Covid-19.
Ar ôl gorfod methu’r gêm ddiwethaf yn erbyn Sussex, fe fu Labuschagne yn chwarae i’r ail dîm yr wythnos hon, ac fe sgoriodd e 276 yn erbyn ail dîm Swydd Northampton a thorri record, gan drechu’r sgôr gorau blaenorol, sef 267 gan Ian Thomas yn 2003.
“Hon fydd gêm Bencampwriaeth olaf Marnus a Neser i ni cyn iddyn nhw ddychwelyd i Awstralia, a bydd yr hogiau’n ysu i gael perfformio a gadael ar nodyn uchel,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.
“Mae’r ddau wedi bod yn wych i ni ers iddyn nhw gyrraedd, a fedrwn ni ddim aros i’w cael nhw’n ôl y flwyddyn nesa’.
“Byddai’r rhan fwya’ o bobol wedi ein rhoi ni yn y drydedd adran ar gyfer pedair gêm ola’r tymor, ond rydan ni wedi dangos ychydig o gymeriad y tymor hwn ac rydan ni am gryfhau a bod yn fwy gwydn fel grŵp.
“Rhan o hynny ydi credu yn ein gallu ac mae hynny’n dod yn ei flaen yn dda, dydan ni ddim yn orffenedig eto ond rydan ni wedi dangos mwy o hynny y tymor hwn, er y bydd y pedair gêm yn anodd.”
Gemau’r gorffennol
Mae Swydd Northampton wedi curo Morgannwg eisoes y tymor hwn, a hynny yn Northampton.
A nhw oedd yn fuddugol hefyd yn 2019, er i dri batiwr sgorio canred i Forgannwg – Marnus Labuschagne, Billy Root a Kiran Carlson – gyda’r sir yn sgorio 570 am wyth cyn cau eu batiad cyn i’r Saeson sgorio 750 wrth i Ricardo Vasconcelos a Rob Newton adeiladu partneriaeth agoriadol o 303.
Y Saeson oedd yn fuddugol yng Nghaerdydd yn 2018 hefyd, wrth i’r capten Alex Wakely, Ben Duckett a Luke Procter fatio’n gadarn cyn i’r troellwr o Sri Lanca, Seekuge Prasanna gosbi’r batwyr.
Colli o saith wiced oedd hanes Morgannwg yn 2017 hefyd, gyda Richard Levi yn taro canred cyn i Richard Gleeson, y bowliwr cyflym, gipio wyth wiced yn yr ornest.
Ond Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2015, a hynny o ddeg wiced wrth i Craig Meschede daro canred cyn i’r Saeson orfod canlyn ymlaen.
Ar y cyfan, dim ond pum gwaith mae Morgannwg wedi curo Swydd Northampton mewn gemau pedwar diwrnod yng Ngerddi Sophia – daeth y gyntaf ohonyn nhw yn 1978 o fatiad ac 16 rhediad.
Roedden nhw’n fuddugol hefyd o dair wiced yn 1995, o bum wiced yn 2000 ac o fatiad a phedwar rhediad yn 2010.
Mae Swydd Northampton wedi ennill chwe gêm, ac mae 11 wedi gorffen yn gyfartal.
Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Carlson, J Cooke, D Douthwaite, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, M Neser, B Root, A Salter, T van der Gugten, J Weighell
Carfan Swydd Northampton: R Vasconcelos (capten), G Berg, N Buck, B Curran, E Gay, H Gouldstone, R Keogh, S Kerrigan, L Procter, B Sanderson, C Thurston, J White, Saif Zaib