Mae tîm rygbi Cymru wedi cael gêm gyfartal 20-20 yn y gêm brawf gyntaf yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Gallai Cymru fod wedi ennill y gêm gyda chic ola’r gêm, ond methodd Jarrod Evans â chic at y pyst cyn i’r chwiban olaf gael ei chwythu.
Hallam Amos gafodd ei enwi’n seren y gêm.
Aeth yr Ariannin i lawr i 14 dyn ar ôl 29 munud ar ôl i’r cefnwr Juan Cruz Mallia weld cerdyn coch am arwain â’i ben wrth fynd i mewn i dacl ar y mewnwr Kieran Hardy.
Roedd yr Ariannin ar ei hôl hi o 6-3 ar ôl 26 munud cyn i Pablo Matera a Jeronimo de la Fuente sgorio ceisiau, gyda’r maswr Nicolas Sanchez hefyd yn sgorio dau drosiad a dwy gic gosb.
Will Rowlands a Tomos Rowlands sgoriodd y ceisiau i Gymru.
Roedd perfformiad Cymru wedi llifo ychydig yn well ar ôl newid yr haneri ond fe fydd gan Gymru gwestiynau i’w hateb cyn yr ail brawf ymhen wythnos.