Mae tri Chymro wedi eu dewis yn nhîm y Llewod i herio’r Sharks ddydd Sadwrn.

Bydd Liam Williams yn dechrau fel cefnwr, a phartneriaeth rhwng Gareth Davies a Dan Biggar yng nghrysau rhif 9 a 10.

Mae dau arall o Gymru, Ken Owens a Wyn Jones, hefyd wedi’u henwi ar y fainc.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal heddiw (Gorffennaf 10) ym Mhretoria, gyda’r gic gyntaf am bump o’r gloch.

Yn dilyn achosion o Covid-19 yn nhîm y Bulls, roedd yn rhaid i’r trefnwyr newid y gwrthwynebwyr i’r Cell C Sharks.

Dyma’r ail dro i’r Llewod chwarae yn eu herbyn nhw, gyda’r ornest gyntaf yn fuddugoliaeth o 54-7 i’r Llewod.

Dim ond dwy gêm arall sydd cyn y gêm brawf gyntaf yn erbyn y Springboks ar 24 Gorffennaf.

Y tîm yn llawn:

15. Liam Williams, 14. Anthony Watson, 13. Elliot Daly, 12. Chris Harris, 11. Duhan van der Merwe, 10. Dan Biggar9. Gareth Davies; 1. Rory Sutherland, 2. Jamie George (capten), 3. Tadhg Furlong, 4. Maro Itoje, 5. Jonny Hill, 6. Tadhg Beirne, 7. Hamish Watson, 8. Jack Conan

Ar y fainc: Ken Owens, Wyn Jones, Kyle Sinckler, Courtney Lawes, Sam Simmonds, Tom Curry, Conor Murray, Finn Russell