Mae’r Llewod yn benderfynol o gwblhau eu gemau yn Ne Affrica er gwaethaf yr argyfwng coronafeirws sy’n parhau i beryglu’r daith.

Bydd dynion Warren Gatland wynebu’r Sharks am yr eildro mewn pedwar diwrnod ddydd Sadwrn (10 Gorffennaf) gan mai’r Sharks yw’r unig dîm sydd ar gael ar gyfer gêm yn Pretoria ar ôl i’r Bulls dynnu allan oherwydd achosion Covid-19.

Bydd modd gwylio’r gêm honno yn fyw ar Sky Sports am 5 o’r gloch, gydag uchafbwyntiau yn hwyrach y noson honno ar S4C.

Trechodd y Llewod y Sharks 54-7 yn y gêm gyntaf.

Datgelodd rheolwr gyfarwyddwr y Llewod, Ben Calveley, fod chwaraewr y Llewod a gafodd brawf positif ddydd Mercher (7 Gorffennaf) – gan orfodi chwe chwaraewr ychwanegol i mewn i gwarantîn – bellach wedi profi’n negyddol.

Os caiff y canlyniad hwnnw ei gadarnhau ddydd Gwener (9 Gorffennaf), yna bydd ef a’i chwe chysylltiad agos yn gallu ailymuno â’r garfan.

Mae prawf yr aelod o dîm rheoli Gatland a oedd hefyd wedi profi’n bositif wedi cael ei gadarnhau, sy’n golygu bod yn rhaid i ddau chwaraewr barhau i hunanynysu.

Yn y cyfamser, mae carfan rygbi De Affrica yn hunanynysu am yr eildro yn dilyn prawf Covid-19 positif.

O ganlyniad mae eu gêm nhw yn erbyn Georgia ddydd Gwener (Gorffennaf 9) wedi cael ei ganslo.

Diystyru symud y gemau i Brydain

Mae Ben Calveley wedi diystyru symud y gemau prawf yn erbyn De Affrica i Brydain, lle mae modd cael torf.

Mae’r prawf cyntaf yn erbyn De Affrica i fod i gael ei gynnal ar 24 Gorffennaf, gyda’r ail brawf ar 31 Gorffennaf, a’r ornest olaf ar 7 Awst.

“Rydyn ni yma yn Ne Affrica,” meddai.

“Fe wnaethon ni benderfyniad yn ôl ym mis Mawrth y bydden ni’n gwneud i’r daith weithio yma ac rydyn ni’n benderfynol o wneud iddo weithio.

“Nid oes cynlluniau o gwbl ar y gweill i wyro oddi wrth y strategaeth honno.

“Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw ei fod yn her. Yn sicr, nid wyf yn mynd i eistedd yma a dweud bod hyn yn hawdd.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y bydd y daith hon yn mynd yn ei blaen.

“Rydym yn benderfynol o’i wneud yn llwyddiannus.”

Canslo gêm y Llewod oherwydd Covid-19

Nifer o chwaraewyr a staff y Bulls wedi profi’n bositif

Carfan De Affrica yn hunanynysu am yr eildro

SA Rugby yn dweud y bydd diweddariad yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r sefyllfa gael ei hadolygu gan grŵp cynghori meddygol

Dau chwaraewr o dîm y Llewod yn gorfod hunanynysu

Roedd y ddau wedi bod mewn cysylltiad agos â hyfforddwr a brofodd yn bositif am Covid-19