Daeth cadarnhad fod gêm rygbi’r Llewod yn erbyn y Bulls ddydd Sadwrn (Gorffennaf 10) wedi cael ei chanslo oherwydd Covid-19.

Does dim lle yn amserlen y daith i aildrefnu’r gêm oedd i fod i gael ei chynnal yn Pretoria.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i garfan De Affrica orfod hunanynysu ar ôl i’r clo Lood De Jager brofi’n bositif.

Yn ôl y Llewod cyn y cyhoeddiad, roedd ganddyn nhw gynlluniau wrth gefn pe bai’r gêm yn cael ei chanslo, ac mae hynny’n cynnwys gwneud mwy o ymarferion neu cynnal gêm fewnol rhwng aelodau’r garfan.

Bydd y Llewod yn herio’r Sharks yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 7).